Skip to content | Skip to navigation | Go to accessibility options | Data | Products and services | About us

Hafan » Data »

CCSR - Adnodd Cymorth Comisiynu ar gyfer Plant

Beth yw ccsr?

Mae ccsr yn wasanaeth sy’n cefnogi’r broses o ddod o hyd i leoliadau gofal addas i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Mae’n fenter lywodraeth gysylltiedig lwyddiannus, â’i phartneriaid yn cynnwys Llywodraeth Cynulliad Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

Yr Uned Ddata Llywodraeth Leol sy’n darparu’r gwasanaeth sy’n cwmpasu cronfa ddata amser-real sy’n gadael defnyddwyr i baru plant gyda darpariaeth sy’n seiliedig ar eu proffil gofynion.

Sut mae ccsr yn gweithio?

Mae cronfa data ccsr yn cadw manylion ar leoliadau gofal a llefydd gwag gan amryw o ddarparwyr gofal, gan gynnwys cartrefi gofal a gofalwyr maeth. Caiff y rhain eu diweddaru’n rheolaidd can y darparwyr, ac felly’n sicrhau bod ccsr yn darparu’r wybodaeth fwyaf diweddar posib.

Fe all timau lleoli a chomisiynwyr awdurdodau lleol ddefnyddio’r gronfa ddata i ganfod lleoliadau addas ar gyfer y plant y maent yn gofalu amdanynt wrth gofnodi gofynion pob plentyn a rhedeg chwiliad. Bydd y gronfa ddata yn dychwelyd rhestr fer o’r holl leoliadau addas yn seiliedig ar yr wybodaeth wedi ei darparu. Cedwir hanes o chwiliadau a’u canlyniadau er mwyn eu cyfeirio atynt yn y dyfodol.

Ydy ccsr yn cadw gwybodaeth ar blant?

Na. Nid yw’r gronfa yn cadw unrhyw ddata personol ar blant. Ond cadw gwybodaeth ar leoliadau sy’n diwallu eu hanghenion y mai’r system.

Beth arall y mae ccsr yn ei ddarparu?

Ar wahân i gynnal y gronfa ddata, mae tîm ccsr yn rhoi cymorth gweithredol i ddarparwyr ac awdurdodau lleol, gan gynnwys mentrau rhanbarthol.

Rydym yn rhedeg desg gymorth ccsr pwrpasol ac yn darparu hyfforddiant ar ddefnyddio’r gronfa data. Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth reoli’n gyson ar y nifer a’r math o ofynion wedi eu chwilio amdanynt, ynghyd â lefel y llefydd gwag wedi eu rhestri i hysbysu comisiynu ar lefel lleol a chenedlaethol. Rydym hefyd yn rhan o sicrhau bod unrhyw gytundebau cyn-leoli wedi eu diweddaru ac ar gael ar lein fel rhan o ccsr.

Eisiau mwy o wybodaeth?

Am fwy o wybodaeth, anfonwch e-bost at ccsr@unedddatacymru.gov.uk neu ffoniwch 029 2090 9540 a gofynnwch am cssr.

Adroddiadau Blynyddol

Ar y dudalen hon fe welwch chi'r Adroddiadau Blynyddol ar gyfer yr Adnodd Cefnogi Comisiynu Plant (CCSR).

Hyfforddiant

Within this page you will be able to view animated sessions which will show you how to carry out the main functions within the CCSR Database.

Mapiau

Yn y tudalen yma byddwch yn gweld mapiau sy'n dangos lleoliadau darpariaeth gofal plant yng Nghymru.