Skip to content | Skip to navigation | Go to accessibility options | Data | Products and services | About us

Hafan »

Mae InfoBase yr Uned Ddata yn mynd o nerth i nerth

Mae InfoBase yn wasanaeth sydd
  • â system ganolog, ar lein sy'n cynnwys data perthnasol ar gyfer ardal e.e. ardal awdurdod lleol, rhanbarthol neu genedlaethol;
  • â'r gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn adroddiadau safonol, tablau a mapiau;
  • â'r holl reolaeth ddata angenrheidiol;
  • ag edrychiad a theimlad defnydd lleol neu ranbarthol; a
  • chefnogaeth dechnegol a hyfforddiant.

Lansio llwyddiannus InfoBase

Lansiom ni InfoBaseCymru yn llwyddiannus yng nghynhadledd CLlLC ym Mehefin gan groesawu llawer o ymwelwyr i’n stondin. Gwnaeth argraff dda ar bawb a’i gwelodd. Mae defnydd gwasanaeth InfoBaseCymru wedi parhau i gynyddu ers ei lansio.

Gallwch gyrchu InfoBaseCymru: www.infobasecymru.net (yn agor mewn ffenestr newydd)

Datblygiadau Cyffrous ar ddod

Rydym wedi lansio InfoBaseCymru fel gwasanaeth datblygiadol yn uniaith Saesneg. Ein tasg fawr nesa yw mudo’r gwasanaeth i Fersiwn 6 o’r meddalwedd Instant Atlas. Bydd hyn yn creu gwelliannau sylweddol yn ei ymarferoldeb ac yn bwysicaf oll yn gadael i ni ddarparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog. Rydym wrthi’n gweithio ar hynny ac yn disgwyl cyhoeddi dyddiad mudo cadarn cyn diwedd y flwyddyn.

Systemau lleol InfoBase

Lansiwyd system wybodaeth leol InfoBase gyntaf fel peilot ym mis Mehefin hefyd. Datblygwyd InfoBaseCaerffili ar gyfer Bwrdd Gwasanaeth Lleol (LSB) Caerffili ac mae ar gael drwy wefan Cyngor Caerffili. Cafodd y safle 3500 o drawiadau yn ei ddau fis cyntaf.

Mae’r LSB eisoes yn disgwyl datblygu’r safle ymhellach. Mae hyn yn cynnwys archwilio a herio potensial y system i ddarparu gwybodaeth sydd o fudd i’r cyhoedd am bob agwedd ar ‘fywyd yng Nghaerffili’, drwy ddefnyddio gwybodaeth oddi wrth gyrff gwahanol.

Mae gwybodaeth bellach am ddatblygiad InfoBaseCaerffili i’w gweld yn newyddlen LSB ddiweddaraf Llywodraeth y Cynulliad.

Datblygwyd systemau peilot eraill i LSB Sir Ddinbych a Phowys yn llwyddiannus, gyda chynlluniau cyflwyno lleol.

Rydym wrthi hefyd yn datblygu systemau gwybodaeth lleol ar gyfer Cyngor Bro Morgannwg, LSB Pen-y-bont, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir y Fflint. Rydym yn siarad â nifer o gynghorau a phartneriaethau eraill gyda golwg ar ddarparu gwasanaethau tebyg iddyn nhw.

Achos pleser a chyffro i ni yw’r ymateb cadarnhaol rydym wedi ei gael i’r cysyniad o InfoBase. Gyda phwysau ariannol byth-gynyddol, mae’r gwasanaeth cost-effeithiol lledaenu a rheoli data yma eisoes yn cyflawni arbedion go iawn i lywodraeth leol yng Nghymru.

Taflen (yn agor mewn ffenestr newydd) (431kb)

http://www.infobasecymru.net