Skip to content | Skip to navigation | Go to accessibility options | Data | Products and services | About us

Hafan »

Mae InfoBase yr Uned Ddata yn mynd o nerth i nerth

Mae InfoBase yn wasanaeth sydd
  • â system ganolog, ar lein sy'n cynnwys data perthnasol ar gyfer ardal e.e. ardal awdurdod lleol, rhanbarthol neu genedlaethol;
  • â'r gallu i gyflwyno gwybodaeth mewn adroddiadau safonol, tablau a mapiau;
  • â'r holl reolaeth ddata angenrheidiol;
  • ag edrychiad a theimlad defnydd lleol neu ranbarthol; a
  • chefnogaeth dechnegol a hyfforddiant.

Llwyddom i uwchraddio InfoBaseCymru i fersiwn feddalwedd newydd ym mis Ionawr. Mae hyn yn golygu’r gallu i weithredu’n gwbl ddwyieithog yn ogystal â gwelliannau yn y mapiau a chyflwyniad tablau. Erbyn hyn mae’n haws byth cael gafael ar wybodaeth yn gyflym ac yn effeithiol.

Rydym ni’n parhau i gynnal a diweddaru setiau data ac wedi cynnwys setiau data ychwanegol fel data ariannol awdurdodau lleol, mewn ymateb i’r galw. Mae ein hamserlen rhyddhau data ar gael hefyd. Mae hon yn rhoi manylion pryd y bydd diweddariadau data yn debygol o ddigwydd, hyd eithaf ein gwybodaeth.

Gallwch gyrchu InfoBaseCymru: www.infobasecymru.net (yn agor mewn ffenestr newydd)

Systemau lleol InfoBase

Ers lansio’n safle gwybodaeth leol gyntaf yng nghynhadledd Mehefin 2009 Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (InfoBaseCaerffili), datblygom ni ddau safle peilot arall (Powys-i ac InfoBaseSirDdinbych). Ers hynny rydym wedi symud o’r cyfnod peilot i mewn i ddatblygiad pum system gwybodaeth leol arall.

Mae InfoBaseVale, Bridgend County InfoBase a StatsConwy i gyd wedi mynd yn fyw yn ystod y chwe mis diwethaf. Bydd InfoBaseNewport yn cael ei ryddhau yn yr haf. Rydym ni hefyd wedi datblygu safle ar gyfer Partneriaeth Ddysgu Ranbarthol y De-orllewin i roi prawf ar nifer o setiau data.

Rydym wrthi’n pennu’r gofynion terfynol am ddwy system bellach yr ydym yn disgwyl gweld eu lansio, ar ffurf beilot o leiaf, yn hwyrach eleni.

Mar amrediad ac amrywiaeth y systemau InfoBase sy’n cael eu datblygu – awdurdodau lleol, byrddau gwasanaeth lleol a phartneriaethau rhanbarthol – yn dangos hyblygrwydd cynnyrch InfoBase a’r gallu i deilwra systemau i anghenion lleol.

Mae’r safleoedd wedi rhoi’r cyfle i awdurdodau lleol a phartneriaethau rannu gwybodaeth allweddol yn fewnol, â phartneriaethau ac yn allanol â’r cyhoedd. Mae’r gallu i gyfeirio galwr at system InfoBase leol neu i InfoBaseCymru wedi rhyddhau amser a fyddai wedi cael ei dreulio yn dod o hyd i ddata a’i goladu i ateb yr ymholiad. Gall yr wybodaeth y mae’r safleoedd yn ei darparu helpu i sicrhau bod effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus yn yr ardal yn cael ei wella.

Mae InfoBase yn gyflym ddod yn arf cyfeirio allweddol gyda mapiau a thablau yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau.

Fforwm defnyddwyr

Bydd fforwm defnyddwyr InfoBase yn chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod systemau gwybodaeth lleol yn parhau i roi gwerth am arian a chyfrannu at wneud arbedion a gwelliannau yng nghyflwyniad gwasanaethau lleol.

Cynhaliom ni’r fforwm cyntaf ym mis Mai. Roedd cynrychiolwyr o’r mwyafrif o’n systemau lleol InfoBase yn gallu mynychu. O ganlyniad, roedd modd cael trafodaeth ystyrlon a defnyddiol a fydd yn llywio’r ffordd rydym ni’n symud ymlaen ag InfoBase.

Taflen (yn agor mewn ffenestr newydd) (431kb)

http://www.infobasecymru.net