Data Cymru Blog
DataBasicCymru: Creu Cymru sy’n Hyderus gyda Data
Rydyn ni wrth ein bodd yn cyflwyno hyfforddiant DataBasic. Cafodd y rhaglen ei datblygu’n wreiddiol gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), a nod hyfforddiant DataBasic (Prosiect Diwylliant Data) yw helpu unrhyw un mewn sefydliad, p’un a oes ganddyn nhw gyfrifoldeb o ran data ac ni waeth pa mor uchel maen nhw, i ddod yn fwy hyderus gyda data. Gallwch chi ddewis o unrhyw rai o’r offerynnau gwe a gweithgareddau yn y ddewislen, ond credwn ni mai ei fwynhau gyda hwylusydd yw’r ffordd orau, gan weithio trwy bob cwrs gyda charfan o gydweithwyr, dros gyfnod pedair wythnos (neu ddau ddiwrnod llawn). Gwelwn ni’r gwahaniaeth mae’n ei wneud ar gyfer dechreuwyr a staff mwy profiadol fel ei gilydd – gan feithrin hyder a chwilfrydedd wrth weithio gyda data.
Tan yn ddiweddar, roedd dwy fersiwn o hyfforddiant DataBasic ar gael – gwefan wreiddiol MIT a fersiwn ddwyieithog o’r wefan honno a ddatblygon ni gydag MIT, sy’n cynnwys setiau data enghreifftiol o Gymru.
Yna, ym mis Hydref 2022, cysylltodd Consortiwm Canolbarth y De â ni i helpu i gyfrannu at eu prosiect Data Yn Ein Byd. Oddi yno, cafodd Addysg DataBasic ei greu – fersiwn o’r wefan sydd â setiau data addas i blant, iaith symlach a ffocws ar wneud y wefan yn hawdd ei we-lywio gan addysgwyr sydd efallai’n dymuno cyflwyno’r gweithdai hyn. Ar ôl treulio cymaint o amser yn meddwl (ac yn cael ein cyffroi gan) y genhedlaeth frodorol ddigidol gyntaf o ddysgwyr, dechreuon ni feddwl am y dyfodol – sut allwn ni sicrhau dyfodol DataBasic?
Diolch i ragwelediad a haelioni ei greawdwyr, mae cod gwefan DataBasic ar gael yn gyhoeddus, sydd wedi gadael i ni greu fersiwn newydd o’r wefan y mae gennyn ni reolaeth lawn drosti. Mae hyn yn sicrhau ei hadnoddau a’i hofferynnau gwe at y dyfodol ac yn sicrhau mai ni yn unig sy’n gyfrifol am bob math o bethau, o’r cynnwys, i hygyrchedd, i breifatrwydd data.
Ein gwaith diweddar ar DataBasicCymru
Dyma rai uchafbwyntiau o’n gwaith:
Credwn mai gwerth gwirioneddol data yw pan fo’n hygyrch i bawb ac yn cael ei ddeall gan bawb, felly aethon ni ati i wella nodweddion hygyrchedd y safle yn unol â’n safonau hygyrchedd sy’n cael eu datblygu. Roedd hyn yn cynnwys sicrhau bod yr holl destun yn ddarllenadwy’n hawdd a bod modd defnyddio’r safle gyda llygoden, bysellfwrdd ac i ddefnyddwyr darllenydd sgrîn yn y Gymraeg a Saesneg. Rydyn ni hefyd wedi ychwanegu tudalen datganiad hygyrchedd at y safle.
Wrth gynnal y wefan ein hunain, ysgwyddyn y cyfrifoldeb dros storio data defnyddwyr. Er mwyn iddo gyd-fynd â gwefannau Data Cymru, rydyn ni wedi ychwanegu esboniadau am breifatrwydd data trwy gydol y safle a thudalen polisi preifatrwydd i esbonio sut mae’ch data yn cael ei storio a’i ddefnyddio.
Rydyn ni wedi diweddaru rhywfaint o’r iaith yn y safle i’w gwneud yn haws i ddechreuwyr ac wedi cyfieithu peth o Saesneg UDA weddilliol i Saesneg Brydeinig. Er enghraifft, rydyn ni wedi ychwanegu esboniadau lle roedd y safle wedi cymryd yn ganiataol o’r blaen bod gan ddefnyddwyr rwyfaint o wybodaeth o ffeiliau .csv neu ddelweddu data. Ein gobaith yw y bydd hyn yn estyn ein hygyrchedd ymhellach byth – gan sicrhau ei bod ar gael i fwy o ystodau oedran, gwahaniaethau dysgu a lefelau profiad.
Mewn cyrsiau DataBasic yn y gorffennol, rydych chi wedi awgrymu ychwhanegu enghreifftiau symlach at rai o’n hofferynnau gwe i’w gwneud  yn haws i ddechreuwyr eu deall – ac rydyn ni wedi gwrando! Rydyn ni wedi diweddaru dau we-offeryn gyda setiau data enghreifftiol newydd sy’n fwy clir neu amserol. Wrth i ni gynnal DataBasic ein hunain bellach, mae gennyn ni reolaeth uniongyrchol dros y cynnwys hwn a byddwn ni’n gallu ymateb yn gyflym i adborth defnyddwyr ynghylch data enghreifftiol yn ogystal ag agweddau eraill ar y safle. Mae hyn yn bwysig am fod deall y pwnc yn gallu roi hwb mawr i hyder. Os ydych chi’n gyfarwydd â’r data neu’r pwnc, rydych yn fwy tebygol o ddechrau ei gwestiynu a’i herio.
Dyfodol DataBasicCymru
Pam ydyn ni’n credu ei fod yn gynnig da i awdurdodau lleol? Nid yw DataBasic Cymru yn ganllaw ar gyfer set ddata benodol neu’n diwtorial mewn rhyw dechneg benodol; mae’n llwyfan i adeiladu’ch diwylliant data eich hun ac i annog ac ennyn chwilfrydedd – wedi’r cyfan, y cwestiynau gorau sy’n cynhyrchu’r atebion gorau. Rydym yn gwybod bod meithrin aeddfedrwydd data o fewn ac ar draws awdurdodau lleol yn her a dyna pam mae DataBasic Cymru yn ateb twt; gall egwyddorion gael eu haddysgu ac yna eu cymhwyso i brofiadau unigolion eu hun. Mae hyn yn hyrwyddo ymreolaeth ac yn rhoi cyfle i bobl ddangos eu harbenigedd yn eu maes.
Ystyrir yn aml bod gwaith data’n rhywbeth ‘mae’n orau i’r arbenigwyr ei wneud’ – pobl â’r gair ‘data’ neu ‘ddadansoddwr’ yn nheitl eu swydd – ond rydyn ni’n gwybod bod pawb yn defnyddio data a gwybodaeth yn eu rolau ac mae’n dod yn sgil angenrheidiol i fwyfwy ohonon ni. Gall y camsyniad hwn ennyn teimladau o ofn neu annigonolrwydd weithiau i bobl sydd heb y teitlau hynny. Dyna pam mae hwyl a chreadigedd gweithdai DataBasic yn bwysig – i’n hatgoffa’n bendant y gallwn ni i gyd gyfrannu at gynhyrchu, casglu, dadansoddi a defnyddio data yn ein rolau, beth bynnag ein lefel.
O ganlyniad i’n gwaith eleni – a’r gwaith paratoadol bendigedig a wnaed gan dîm gwreiddiol DataBasic – mae gennyn ni wefan newydd a gwell erbyn hyn a fydd yn ein cefnogi i gyflenwi hyfforddiant data i gynghorau Cymru’n well. Hefyd gallwn ni ymateb i’ch adborth nawr er mwyn gwella’r safle’n fwy rhagweithiol. Gobeithiwn y bydd hyn yn ein symud yn agosach at ein gweledigaeth o lywodraeth leol yng Nghymru sy’n hyderus o ran data.
Gallwch chi weld y newidiadau drosoch eich hunan yma a beth am roi cynnig ar weithdy neu – os oes diddordeb gennych chi mewn trefnu tipyn o hyfforddiant – siaradwch â Róisín.
Ynghylch yr awduron
Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.
Rob yw ein gwyddonydd data. Mae’n cefnogi ein defnydd arloesol ar ddata ac yn cynnig cyngor ac arweiniad ar fanteisio i’r eithaf ar ddata.
Cysylltu
Róisín
029 2090 9599
Roisin.Roberts@data.cymru
Rob
029 2090 9569
Rob.Pascoe@data.cymru
Pedair gwers allweddol a ddysgais i wrth ddarparu cymorth data gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae gwaith y rhai ononon ni sy’n gweithio’n broffesiynol ym maes data yn gallu edrych yn oer ac yn amhersonol. Taenlenni a chyfrifiadau. Cod yn mynd i mewn, rhifau’n dod allan. Ac… ie, mae hynny’n weddol gywir. Ond mae ochr ddynol y rhai ohonon ni sy’n geeks data yn cael ei chydnabod a’i dathlu’n ehangach yn y blynyddoedd diwethaf. Yn wir, mae bron holl bigion fy ngyrfa wedi ymwneud mewn rhyw ffordd â natur gyfoethog, gydweithredol cymuned data’r sector cyhoeddus. Dyma un o’r straeon hynny.
Rhwng Mai a Gorffennaf 2024, cymerais i ran, fel mentor, yn rhaglen Sbarduno Delweddu Data1 Campws Gwyddor Data’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Trwy’r rhaglen, helpais i gydweithiwr o’r Archif Genedlaethol i ddatblygu dangosfwrdd i arddangos data’r archif i gydweithwyr a phartneriaid.
Profiad pleserus a boddhaus oedd hwn i mi – diolch i raddau helaeth i’m mentai. Yn gymaint felly iddo f’ysbrydoli i ysgrifennu’r blog yma. Yma rwy’n rhannu rhai o’r gwersi pennaf a ddysgais i:
1 I’r anghyfarwydd, roedd y rhaglenni Gwyddor Data a Sbarduno Delweddu Data yn gynlluniau mentora a reolwyd gan Gampws Gwyddor Data’r SYG. Roedd y rhaglenni yn paru egin gwyddonwyr data a dadansoddwyr data â mentoriaid a oedd â sgiliau perthnasol ar gyfer eu prosiect arfaethedig. Cafodd mentoriaid a menteion eu derbyn o bob rhan o’r sector cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol. Cafodd y rhaglenni sbarduno eu cynnal am y tro olaf yn 2024.
1. Mynnwch wneud eich trefniadau angenrheidiol yn gynnar
Rwy’n jocan bod y cylchdaith cynadleddau data wedi dysgu i mi bwysigrwydd dull moeseg-yn-gyntaf, preifatrwydd-yn-gyntaf, cydraddoldeb-yn-gyntaf, llywodraethu-yn-gyntaf, rhanddeiliaid-yn-gyntaf, data-yn-gyntaf (heb fod mewn unrhyw drefn arbennig). Ond o ddifrif, mae cynnal sgyrsiau pwysig â’r bobl gywir yn gynnar yn eich gwaith cynllunio yn hanfodol. Bydd hyn yn cynnwys siarad â chydweithwyr ym meysydd llywodraethu gwybodaeth a moeseg, y bobl sy’n gwneud penderfyniadau a chydweithwyr eraill y gallai’ch gwaith chi effeithio arnyn nhw.
Ar nodyn cysylltiedig, mae’n helpu hefyd i fod yn glir iawn – nid yn unig am beth mae’r person rydych chi’n ei gefnogi yn dymuno ei gyflawni – ond hefyd beth mae’n gobeithio ei ddysgu. Trwy wneud hynny, byddwch yn gallu cyflawni’r nod hwnnw yn ogystal â helpu i sicrhau eich bod yn addysgu’r sgiliau allweddol hynny wrth wneud.
2. Celfyddyd addysgu heb wneud (popeth)
Nod yr ymarfer yw uchafu’r gwerth i’r person rydych chi’n ei gefnogi. Gall fod yn anodd brwydro’r temtasiwn i weithio mor gyflym ag y byddech chi ar eich pen eich hun, ond mae’n bwysig peidio â chymryd drosodd. Mae pobl yn dysgu mewn ffyrdd gwahanol, ond mae’r mwyafrif yn elwa ar y cyfle i wneud pethau eu hunain, yn hytrach na gwylio rhywun arall yn eu gwneud.
Mae’r dull hwn yn estyn i reoli a chynllunio’r gwaith. Anogwch y sawl rydych chi’n eu cefnogi i gymryd cymaint o gyfrifoldeb â phosibl am sut maen nhw’n dyrannu eu hamser. Mae gwneud hynny’n cynnig profiad gwerthfawr iddyn nhw mewn arwain eu gwaith eu hun. Yn ogystal, mae’n caniatáu iddyn nhw deilwra’r prosiect i ddatblygu sgiliau a dirnadaeth sy’n fwyaf perthnasol ac ystyrlon iddyn nhw.
Ar y llaw arall, dylai fod gennych chi syniad o ba rai o’ch sgiliau chi rydych chi eisiau eu blaenoriaethu, er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr bod amser yn cael ei neilltuo i’w cynnwys. A chofiwch fod gwirio’r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn rhan allweddol o addysgu. Cofiwch roi adborth erbyn diwedd y prosiect ar eu defnydd o’r technegau newydd ac ansawdd yr allbwn ei hun.
3. Byddwch yn gyfarwydd â gwerth eich gwybodaeth
Roeddwn i wedi cymryd yn ganiataol faint sydd i’w wybod am ddelweddu data. Yn enwedig wrth weithio mewn rôl dechnegol, mae’n hawdd anghofio gwerth y pethau bychain. Roeddwn i wedi disgwyl y byddai cryn dipyn o’n hasmer yn cael ei dreulio yn ysgrifennu cod ac yn llunio dangosfyrddau. Ond reoddwn i wedi tanamcangyfrif faint sydd i’w addysgu am yr hanfodion:
Pryd mae pob math o siart yn fwyaf effeithiol?
Sut mae ysgrifennu teitlau eglur ac addysgiadol?
Faint i’w roi ar bob tudalen?
Sut mae penderfynu pa liwiau i’w defnyddio?
Pryd mae siartiau’n ddatgeliadol?
Mae rhannu’r math yma o wybodaeth llawn mor bwysig â datblygu sgiliau technegol ac yn bendant yn werth ei hystyried. Gweler ein harweiniad i Gyflwyno Data am fwy o wybodaeth.
4. Mae addysgu’n wobr ynddo ei hun
Unwaith y byddwch chi’n gysurus gyda phwnc, mae’n gallu bod yn anodd sylwi ar y bylchau yn eich gwybodaeth. Mae hyn yn gallu ei gwneud yn fwy anodd parhau i wella ond hefyd yn gallu tanseilio ein hunan-gred. Mae addysgu’n rhoi prawf ar derfynau ein dealltwriaeth ac mae ganddo ffordd o gyrraedd holl silffoedd llychlyd ein hymennydd. Cadarnhaodd y profiad hwn fod addysgu’n arf gwerthfawr ar gyfer hunan-wella.
Gyda’n bywydau prysur a’n hamserlenni gwaith hectig, mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i’r amser i helpu pobl eraill i ddatblygu, ond mae mor werthfawr ei wneud. Yn ogystal â’r cyfle i weld rhywun arall yn tyfu a dod yn fwy hyderus, mae gennych chi gyfle hefyd i roi yn ôl a – croesi bysedd – theimlo mwynhad gweld rhywun yn cyflawni rhywbeth na fydden nhw wedi gallu ei wneud o’r blaen.
Ynglŷn â’r awdur
Rob Pascoe
Rob is our data scientist. He supports our innovative use of data and provides advice and guidance on getting the most from data.
F’amser i yn Data Cymru
Mae Ieuan yn ymadael â ni am borfeydd newydd ar ôl bron pum mlynedd yn union o weithio gyda ni. Gofynnom iddi rannu ei feddyliau ar ei amser yma a pam mae dilyn gyrfa ym maes data yn gam call i unrhyw fyfyriwr graddedig.
Cyflwyniad
Mae graddio o brifysgol yn garreg filltir hynod gyffrous, ond yn aml mae’n dod law yn llaw â’r dasg frawychus o wybebu’r farchnad swyddi. Wnes i raddio gyda gradd yn y Gymraeg a Mathemateg ac edryches i ar lawer o opsiynau. Roeddwn i bob amser yn hoff o rifau pan oeddwn i’n ifancach a dysges i lot o sgiliau Excel yn ystod cyfnod byr gydag un o’r 4 Mawr, ond roedd yn teimlo’n bwysig i mi weithio i sefydliad lle roedd gwerth mawr yn cael ei roi ar y Gymraeg. Roeddwn i’n ddigon ffodus i ddod o hyd i swydd yn Data Cymru.
Pam Data Cymru?
Ar ôl ymchwilio i Data Cymru, roeddwn i’n cytuno ar unwaith â’u cenhadaeth i ddarparu gwasanaethau a mewnwelediadau data i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru. Eu nod yw gwella gwasanaethau cyhoeddus trwy ddefnyddio data’n effeithiol, ac roedd hyn yn gwneud synwyr i mi. Teimlwn y gallwn i helpu i wneud gwahaniaeth i wasanaethau cyhoeddus trwy ddefnydd io data a rhifau, ar yr un pryd â thyfu mewn amgylchedd proffesiynol sy’n cael ei yrru gan ddata.
Argraffiadau cyntaf a’r pandemig
Roedd ymuno â Data Cymru yn syth allan o brifysgol yn wefreiddiol ac yn frawychus. Roeddwn i’n gyffrous i ddysgu sgiliau newydd mewn swydd roeddwn i’n credu ei bod ar lefel mynediad, a fyddai’n gadael i mi dyfu’n gyson a dysgu am fyd data. Ond chwe mis ar ôl i mi ymuno, dyma COVID yn taro ac ar unwaith ces i fy mwrw i mewn i’r pen dwfn.
Oherwydd COVID roedd archwaeth aruthrol gan y cyhoedd am ddata cywir. Byddai pobl yn gwylio’r newyddion bob nos, yn gwirio’r niferoedd achosion diweddaraf yn eu hadal nhw, gan obeithio y byddai’r rhifau’n gostwng ac y gallen ni ffarwelio â’r pandemig. Gwnaeth hyn rôl Data Cymru wrth gasglu data yn hanfodol bwysig.
Ces i fy mwrw i mewn i fyd casgliadau data dyddiol am nifer y plant i weithwyr allweddol a oedd yn dal i fynychu ysgolion, nifer y gofalwyr oedd yn derbyn brechiad, a nifer y plant oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim ar ôl i ysgolion ail-agor. Roedd y casgliadau yma’n gadael i mi fod yn rhan o bob cam y broses casglu data, o gasglu i gyhoeddi. Roeddwn i’n falch i rai o’r ffigurau roeddwn i wedi’u casglu gael eu defnyddio yn un o sesiynau briffio dyddiol Prif Weinidog Cymru.
Gweithio ar brosiectau go iawn
Trwy weithio ar gasgliadau data yn ystod y pandemig ces i ddysgu llawer o sgiliau hanfodol. Yna ces i fy nghyflwyno i sgiliau mwy technegol ac amrywiol offerynnau a systemau roedd y tîm yn eu defnyddio, ac ymddiriedwyd ynof fi i greu dangosfyrddau a rheoli cyflwyniad rhaglen hyfforddiant.
Nid oes yr un swydd heb ei heriau, ac nid oedd fy rôl i yn Data Cymru yn wahanol yn hyn o beth. Un o’r rhwystrau mwyaf oedd meistroli’r feddalwedd a’r offerynnau arbenigol roedd y sefydliad yn eu defnyddio.
Ond mae’r diwylliant yn Data Cymru yn un o ddysgu cyson. Mae’r sefydliad yn cynnig digonedd o gyfleoedd am ddatblygiad proffesiynol, o weithdai i gyrsiau ar-lein. Pryd bynnag byddwn i’n dod ar draws her, roedd cymorth ar gael bob tro, boed gan gydweithwyr neu adnoddau allanol.
Roedd natur gydweithredol gwaith yn Data Cymru yn golygu nad oeddwn i erioed yn ynysig wrth fy nhasgau. Roedd cyfarfodydd tîm rheolaidd, sesiynau taflu syniadau, a dolenni adborth yn sicrhau bod cyfraniad pawb yn cael ei werthfawrogi, a bod yr allbwn terfynol yn gyd-ymdrech. Roedd y ffordd hon o weithio nid yn unig yn gwella ansawdd y gwaith ond hefyd yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned o fewn y tîm.
DataBasicCymru
Roedd ymddiriedaeth fy nghydweithwyr ynof i hwyluso cyflwyniad rhaglen hyfforddiant data yn anrhydedd enfawr yn fy natblygiad proffesiynol. Mae’r cwrs hyfforddiant, DataBasicCymru, yn helpu dechreuwyr ym maes data i fagu hyder a gwella eu rhugledd o ran data. Yn ystod f’amser yn gweithio ar y prosiect yma, cyflwynon ni’r hyfforddiant i 18 awdurdod lleol a’r Senedd, gan hwyluso hyfforddiant i fwy na 400 o gyfranogwyr. Gwnaeth derbyn adborth rhagorol gan gyfranogwyr roi cymaint o foddhad i mi, gan fy mod i’n credu bod data i bawb ac y bydd pobl yn dibynnu’n fwyfwy ar ddata manwl-gywir yn y dyfodol.
Edrych tua’r dyfodol
Wrth i mi baratoi i adael Data Cymru ac edrych tua’r dyfodol, rwy’n hynod o gyffrous am y posibiliadau o’m blaen i. Mae gen i gyfle anhygoel gyda fy nghyflogwyr newydd i ddefnyddio’r sgiliau rwy wedi eu dysgu a chynnig mwy o fewnwelediadau data i wasanaeth cyhoeddus. Rwy’n gwybod o brofiad bod data yn gwneud gwahaniaeth, ac rwy’n annog pawb i ymgorffori data yn eu gwaith, boed hynny fel llwybr gyrfa neu fel rhywbeth all ychwanegu gwerth yn eu gwaith. Mae’r posibiliadau gyda data yn ddi-rif, ac mae dehongli data fel y gall pobl eraill wneud penderfyniadau gwybodus yn gallu newid y byd!
Data Cymru – cefnogi’n pobl i “wir siarad Cymraeg”
Ers 2017, mae Data Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau’r Gymraeg, fel a bennir gan Lywodraeth Cymru o dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r safonau hyn yn gosod disgwyliadau clir i ni ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg i’n cwsmeriaid, a hyrwyddo defnydd y Gymraeg am ein holl wasanaethau. Mae’n cynnwys safonau y mae’n rhaid i ni gydymffurfio â nhw wrth gyflenwi gwasanaethau, llunio polisi, gweithrediadau a chadw cofnodion.
Yn ddiweddar, roedd hwb mewnol i ddefnyddio’r Gymraeg yn amlach ac yn fwy organig yn y gwaith ac i allu darparu mwy o wasanaethau, lle bo’n bosib, trwy gyfrwng y Gymraeg. I annog dysgu a siarad Cymraeg yn y swyddfa ymhlith staff mewn sefyllfaoedd anffurfiol a ffurfiol, rydym wedi ymrwymo i ‘Coffi Cymraeg’ unwaith y mis. Mae’r cyfarodydd hyn yn gyfle i ddysgwyr ymarfer, i siaradwyr Cymraeg rhugl gynnal eu Cymraeg ac mae hyd oed croeso i’r sawl heb fawr neu ddim Cymraeg* i ddod a gwrando.
Yn Data Cymru rydym yn ymrwymo i ddatblygu a dysgu parhaus ar gyfer ein staff ac felly, yng Ngorffennaf, dyma’n Prif Swyddog Gweithedu, Richard Palmer, a finnau’n cychwyn am Nant Gwrtheyrn yn y gogledd am gwrs gloywi preswyl am wythnos.
Nant Gwrtheyrn yw cartref y Ganolfan Cymraeg a Threftadaeth Genedlaethol, sy’n cynnig cyrsiau ar-lein a phreswyl am ddysgu Cymraeg ar bob lefel. Wedi’i lleoli ar arfordir gogleddol hudolus Penrhyn Llŷn, mae ei lleoliadau preifat ac anghysbell yn cynnig profiad trochi, unigryw.
Dechreuodd ein cwrs pum niwrnod gyda sesiwn cyflwyniadol, cyfle i ddod i adnabod ein cyd-fyfyrwyr a gosod rhai nodau. Roedd y rhain yn amrywio’n eang ond daeth yr un themâu i’r amlwg i bawb: eisiau hyder, help gyda threiglo a rhai gwelliannau ymarferol ar gyfer defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith. Dyma fy nodau innau hefyd, yn ogystal ag eisiau mwynhau defnyddio Cymraeg.
Peth difyr oedd nodi ein bod i gyd yn canmol sgiliau Cymraeg lleill ond yn ddigon parod i feirniadu’n sgiliau ein hun. Pam ydy’r Cymry mor anfodlon canu clodydd eu hunain? Achos, er ei bod i gyd yn gallu siarad yn rhugl ac yn hir, ar amrediad o bynciau gwahanol, roedden ni i gyd yn teimlo nad oedd gennyn ni “ddigon o Gymraeg” neu “ddim yn ddigon da”. Os ydych chi’n meddwl bod Prydeinwyr yn gor-ymddiheuro, arhoswch nes i chi gwrdd â deg o siaradwyr Cymraeg awyddus ond nerfus yn ceisio gwella eu sgiliau iaith.
Arweiniodd ein tiwtor am yr wythnos ni trwy rywfaint o gynnwys sefydledig y cwrs yn ogystal â bod yn ddigon hyblyg i’n helpu gydag ymholiadau neu nodau penodol. Cyfuniad delfrydol, o wersi gramadeg, gwaith cyflwyno a siarad fel pwll y mor. .
Roedden ni’n ffodus, er dwi’n tybio bod hyn yn ffenomen cyffredin iawn yn Nant Gwrtheyrn, i ddod at ein gilydd yn agos fel grŵp yn gyflym ac i ni i gyd deimlo’n gysurus wrth rannu, herio a holi ein gilydd.
Erbyn diwedd y trydydd diwrnod, ces i fy mod i’n meddwl ac yn ysgrifennu yn Gymraeg heb orfod procio fy hunan i wneud hynny’n gyntaf. Ac erbyn dydd Gwener, doeddwn i ddim yn teimlo fy mod i’n cyfieithu o Saesneg i Gymraeg cyn siarad, roeddwn i, yn bennaf, wir yn siarad Cymraeg! Ddim yn ddrwg i rywun sydd heb ddefnyddio’r Gymraeg i raddau helaeth ers fy TGAU.
Allai Richard a finnau ddim canu clodydd y Nant yn uwch - ac roedden ni’n ddigon ffodus i fwynhau cyd-ganu’n egnïol gyda’r grŵp ac un o’n cyd-fynychwyr, y canwr a chyfansoddwr caneuon Eve Goodman!
Mae digonedd o staff eraill Data Cymru a fydd nawr yn ceisio mynychu cyrsiau yn y Nant, o ddechreuwyr i gyrsiau gloywi, ar-lein a phreswyl. Mae Richard hyd yn oed wedi cofrestru i wneud y cwrs gloywi ysgrifenedig.
O ganlyniad i’m profiad a chefnogaeth gan Data Cymru, erbyn hyn dwi wedi cyflwyno sawl cwrs hyfforddiant yn y Gymraeg. Hefyd dwi wedi anfon e-byst a chynnal cyfarfodydd yn y Gymraeg. Ein huchelgais yw cynnig sesiynau hyfforddiant Cymraeg (yn hytrach na’n cynnig presennol sef darparu cyfieithu ar y pryd o Saesneg i Gymraeg os bydd o leiaf 10% o’r sawl sy’n mynychu yn dymuno defnyddio Cymraeg).
Roedd yn fraint cael mynychu Nant Gwrtheyrn a dwi wrth fy modd yn gweithio yn Data Cymru, lle rydym yn annog defnyddio’r Gymraeg nid yn unig oherwydd ein hymrwymiad i Safonau’r Gymraeg ond achos, i rai ohonon ni, mae gweithio yn y Gymraeg jest yn gwneud synwyr.
*Yn bersonol, dwi’n gwrthod y syniad bod neb sy’n byw yng Nghymru â “dim Cymraeg” achos, ie, mae “Rydw i’n hoffi coffi” yn cyfri ac mae’r mwyafrif o bobl yn gwybod o leiaf un gair, shwmai neu Cymru, er enghraifft.
Ynglŷn â’r awdur
Róisín Roberts
Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.