• This website is available in English

Deall y lleoedd lle rydym yn byw ac yn gweithio - Heriau a chyfleoedd

Mae tystiolaeth ar sail lle yn hanfodol, i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau ac i ddeall sut mae lleoedd yn newid dros amser. Mae gwaith diweddar i ddeall llesiant ar lefel gymunedau’n well wedi bwrw goleuni cryfach ar hyn, ond mae paentio darlun o le a gallu canfod ei nodweddion penodol yn dod â’i heriau. Yn gyntaf, sut orau i ddiffinio’n lleoedd mewn modd cyson, ar yr un pryd â darparu gwybodaeth ar sail ddaearyddol y bydd darparwyr gwasanaethau (a dinasyddion) yn ei hadnabod fel trefi, cymunedau ac ati. Yn ail, her y ffaith mai dim ond data meintiol cadarn cyfyngedig sydd ar gael ar lefel islaw awdurdodau lleol.

Rydym bob amser yn barod i ymateb i her ac wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn edrych ar beth allai fod yn bosibl. Gyda chefnogaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, rydym wedi datblygu offeryn peilot llwyddiannus fel ‘prawf o’r cysyniad’. O ran diffinio ‘lle’, rydym wedi defnyddio daearyddiaeth Ardaloedd Adeiledig (BUA) y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Gan fod y Swyddfa Ystadegau’n argymell bod yn ofalus wrth ddefnyddio ystadegau ar gyfer BUA â phoblogaeth o lai na 1,500, penderfynom ddefnyddio BUA â phoblogaeth o 1,500 neu fwy. Rhoddodd hyn 80 o ‘leoedd’ inni ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roeddem yn gallu cael gafael ar set gychwynnol o ddata ar gyfer y lleoedd hyn.

Felly, ble ydym ni nawr? Roedd adborth o arddangosiadau o’r offeryn peilot yn ystod Gwanwyn a Haf 2018 yn gadarnhaol iawn. Gan hynny, rydym wedi symud ymlaen i ddatblygu offeryn cwbl ddwyieithog sy’n trafod ‘lleoedd’ ar hyd a lled Cymru. Bydd Proffiliolleoedd.Cymru yn cael ei lansio yn yr wythnosau nesaf fel fersiwn beta. Er mai cefnogi llywodraeth leol a’i phartneriaid yw’r nod, gobeithiwn y bydd yn ddefnyddiol i gynulleidfa ehangach.

Mae gennym gynlluniau cyffrous ar y gweill ar gyfer yr offeryn, a’r ffocws hirdymor yw ei botensial i gefnogi dealltwriaeth o’r data sy’n dod allan o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn ni’n chwilio am fewnbwn gan ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu data pellach ac estyn ei ymarferoldeb.

I gadw mewn cysylltiad â lansiad yr offeryn newydd, dilynwch ni ar Twitter. Os hoffech chi drafod y gwaith hwn ymhellach, neu weld arddangosiad o’r offeryn newydd, anfonwch e-bost ataf.

Ynglŷn â’r awdur

Andrew Stephens

Mae Andrew wedi bod yn Gyfarwyddwr Gweithredol Data Cymru ers 15 mlynedd. Ef sy’n gyfrifol am reolaeth y sefydliad o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb am reolaeth strategol a gweithredol fel ei gilydd. Mae Andrew hefyd yn darparu uwch arweiniad a goruchwyliaeth ar ystod o brosiectau a chynhyrchion Data Cymru.

Cyswllt

029 2090 9500

Andrew.Stephens@data.cymru

09/04/2019