Gall timau lleoli a chomisiynwyr mewn awdurdodau lleol ddefnyddio’r gronfa ddata i nodi lleoliadau addas ar gyfer plant sydd yn eu gofal dwy gofnodi manylion gofynion y plentyn a chynnal chwiliad. Yn ogystal gall awdurdodau lleol gyhoeddi cyfeiriadau lleoli a chynnal proses dendro, gan ddefnyddio CCSR i greu rhestr fer o’r darparwyr sy’n berthnasol i anghenion y plentyn.
Mae cronfa ddata CCSR yn dal manylion lleoliadau gofal a lleoedd gwag gan amrediad o ddarparwyr gwasanaeth, gan gynnwys cartrefi preswyl a gofalwyr maeth. Mae’r rhain yn cael eu diweddaru’n gyson gan ddarparwyr gofal, gan sicrhau bod CCSR yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf bosibl. Mae'r gronfa ddata ar gael yn Saesneg yn unig.
Mwy o wybodaeth