Mae mynediad at a rhannu data, o fewn sefydliadau sector cyhoeddus, ledled a thu hwnt, yn hanfodol os ydym am sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwn yn helpu ein cymunedau i ffynnu. Mae mynediad gwell at ddata yn ein helpu ni, a'n cymunedau, i ddeall mwy am y byd rydyn ni'n byw ynddo, anghenion ein cymunedau a sut y gallem eu cefnogi orau.
Fel aelod o'r gymuned hon, byddwch yn cysylltu â chydweithwyr o'r un anian i rannu, datblygu a hyrwyddo arferion da mewn perthynas â mynediad a rhannu data. Felly, os ydych chi'n gweithio yn y sector cyhoeddus Cymru ac eisiau annog a hwyluso gwell mynediad at ddata, beth am ymuno â'n Cymuned Ymarfer Gwella Mynediad at ddata sector cyhoeddus Cymru.
Er mwyn ymuno â’r gymuned, sylwch fod angen i chi glicio ar ‘Request to join’ yn y ddolen uchod.
Byddwch chi’n derbyn e-bost ar ôl i’ch cais gael ei gymeradwyo. Os nad oes gennych chi gyfrif ar y Knowledge Hub yn barod, byddwch chi’n cael eich cyfarwyddo i greu un. Wedyn dylech chi allu dilyn y ddolen uchod at y ‘Request to join’.