Bydd Data Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn cynnal gweithdy ar ‘‘Gwerthuso gwasanaethau rheng flaen – BETH SY'N GWEITHIO?’’ ddydd Mercher 12 Chwefror 2020 yn Nhŷ Llywodraeth Leol, Rhodfa Drake, Caerdydd, CF10 4LG am 10:00 – 14:00. (Cinio am 13:00)
Beth fydd dan sylw?
Os ydych chi’n ymwneud â chomisiynu neu gyflenwi gwasanaethau sector cyhoeddus neu wirfoddol, byddwch yn fwy na thebyg eisoes yn deall pwysigrwydd:
- Deall effeithiolrwydd eich gwasanaethau.
- Gwella sut mae gwasanaethau’n cael eu gwerthuso.
- Sicrhau dealltwriaeth well o effaith gwasanaethau ar gymunedau a llesiant.
Os ydych:
- Yn wynebu heriau wrth gynnal gwerthuso effeithiol naill ai fel comisiynydd neu rywun sy’n cyflenwi gwasanaethau.
- Yn gallu rhannu profiadau, da neu ddrwg, a allai ein helpu i ddeall yn well sut i gynnal gwerthuso effeithiol mewn amgylcheddau gwaith sy’n wynebu heriau a blaenoriaethau lluosog.
- Yn awyddus i wneud gwahaniaeth.
Yna:
- Efallai y bydd diddordeb gennych mewn dod yn rhan o drafodaeth ‘Cymuned Ymholi (Saseneg yn unig)’ rhwng y sector gwirfoddol a chyhoeddus sy’n archwilio ac yn ymdrin â sut i asesu a mesur effeithiolrwydd gwasanaethau yn realistig, ac effaith gwasanaethau ar gymunedau a llesiant.
Pam dylech chi fynychu?
Dylech chi fynychu os ydych:
- Yn ymwneud â chomisiynu neu gyflenwi gwasanaethau sector gwirfoddol neu gyhoeddus.
- Yn ymwneud â gwerthuso gwasanaethau sy’n cael eu comisiynu.
- Â rhywbeth i’w ddweud neu ddysgu am y pethau hyn.
Cofrestru
Cofrestrwch eich lle nawr drwy lenwi’r ffurflen gofrestru ar-lein isod. Mae lleoedd yn y digwyddiad yn gyfyngedig, felly cofrestrwch yn gynnar i osgoi siom. Y dyddiad cau am gofrestru yw 31 Ionawr 2020.
Yn gweithio yn y sector cyhoeddus? – cofrestrwch yma
Yn gweithio yn y sector gwirfoddol? – cofrestrwch yma
Cysylltwch â Leanne Teichner ar 029 2090 9500 / Leanne.Teichner@data.cymru neu Mair Rigby ar 029 2043 1761 / mrigby@wcva.cymru os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am y digwyddiad hwn.