Nod yr ymchwil hon oedd deall pa ddata cyfryngau cymdeithasol a oedd ar gael, sy’n gallu cael ei ddefnyddio ac sydd o fudd i’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau mewn llywodraeth leol yng Nghymru.
Adolygom ni bedwar opsiwn am gyrchu data Twitter a chael bod gan bob un ei rinweddau ei hun. Yn y pen draw, darganfuom fod offeryn a gafodd ei ddatblygu gan Brifysgol Caerdydd (COSMOS) oedd y dull symlaf a mwyaf cost-effeithiol o gasglu data Twitter, yn ogystal â chael mynediad i allu dadansoddol sylfaenol.
Yn yr adroddiad, hwn, dangoswn fod modd cyrchu data cyfryngau cymdeithasol defnyddiol yn gyflym, yn hawdd, yn foesegol, ac yn rhad.
Ein gobaith yw y bydd y peilot hwn yn sbarduno ffyrdd pellach, a mwy arloesol, o ddefnyddio data cyfryngau cymdeithasol ar draws llywodraeth yng Nghymru.