Mae Partneriaeth Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol De-orllewin Cymru yn un o bedair Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (RSP) yng Nghymru. Mae Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol yn hyrwyddo buddsoddiad mewn sgiliau drwy ddatblygu ymatebion ar sail anghenion lleol a rhanbarthol. Mae’r wefan yn cynnal gwybodaeth am y RSP gan gynnwys eu blaenoriaethau, y bwrdd, cynlluniau sgiliau, cofnodion ac agendâu, proffiliau tîm, ymchwil gan drydydd partïon, a manylion cysylltu.
Mae’r porth data yn cynnig ystod o wybodaeth am y farchnad lafur i gefnogi a llywio’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y rhanbarth. Wrth galon y porth data mae system mapio ar-lein ryngweithiol sy’n sicrhau bod data yn hygyrch ac yn addysgiadol i ddefnyddwyr. Mae hyn yn gadael i ddefnyddwyr unigol drin a thrafod amrediad o setiau data gwahanol ar draws ystod o ffiniau daearyddol gwahanol er mwyn cymharu a chyferbynnu gwybodaeth.
Ewch