Nod
I'ch cyflwyno chi i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau i’ch helpu i grynhoi data a darparu ystadegau hawdd eu deall.
Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau yn ofynnol.
Cynnwys
Gall edrych ar set ddata am y tro cyntaf deimlo'n llethol, ni waeth pa mor fawr neu fach. Gall ystadegau cryno eich helpu i wneud synnwyr o'ch data yn gyflym ac yn hawdd drwy symleiddio'r tueddiadau allweddol. Er enghraifft, gall cymryd cyfartaledd eich helpu i ddeall sut olwg sydd ar eich data.
Mae ystadegau cryno yn aml yn cael eu defnyddio i ymchwilio a disgrifio data cyn mynd ymlaen i wneud dadansoddiad mwy datblygedig. Dyma flociau adeiladu’r rhan fwyaf o ddadansoddiad meintiol.
Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i ddeall sut i grynhoi’ch data yn ystadegau hawdd eu dehongi a’u deall.
Canlyniadau
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall:
- sut i ddehongli ystadegau
- y mesurau ystadegol mwyaf cyffredin
- sut allan nhw gael eu cyfrifo a phryd dylech chi eu defnyddio.
Diddordeb gennych?
I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i TicketSource (Saesneg yn unig) i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 o gynrychiolwyr. Y gost yw:
- Tu allan i lywodraeth leol - £750 a TAW
- Awdurdodau lleol Cymru - £600 a TAW
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.
029 2090 9599
Roisin.Roberts@data.cymru