• This website is available in English

Am ein cwmni

Rydym yn gwmni llywodraeth leol Cymru sydd â Bwrdd Cyfarwyddwyr wedi eu hethol gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Darperir y rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd gan y Cyfarwyddwr Gweithredol gyda cefnogaeth y Gyfarwyddwr Cynorthwyol a’r Grŵp Arweinyddiaeth Strategol.

Rydym yn cynnig amrediad o gefnogaeth arbenigol gyda’r nod o’ch helpu chi i ddod o hyd i ddata a’i ddefnyddio’n effeithiol, gan gynnwys

  • Cymorth i gyrchu, casglu neu goladu data
  • Dadansoddi data
  • chyflwyno data’n effeithiol
  • Cyngor ar sut orau i ymgymryd ag ymchwil
  • Cymorth i ddarganfod beth mae dinasyddion, defnyddwyr gwasanaeth/ cwsmeriaid yn meddwl
  • Hyfforddi’ch staff mewn pynciau perthnasol fel Ystadegau Sylfaenol, Cyflwyno Data, Rheoli Perfformiad, Dylunio a Dadansoddi Arolygon, Dylunio Holiaduron ac ati
  • Darparu mynediad cost-effeithiol i amrediad o setiau data masnachol.

Cyfarwyddwyr Cwmni a benodwyd gan Gydmeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC):

  • Cynghorydd Colin Mann – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (Cadeirydd)
  • Cynghorydd Christopher Weaver – Cyngor Caerdydd (Is-gadeirydd)
  • Cynghorydd Jason McLellan – Cyngor Bwrdeistref Sir Ddinbych
  • Cynghorydd Helen Cunningham - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cynghorydd Stephen Thomas - Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Cynghorydd James Pritchard - Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
  • Cynghorydd Geraint Thomas – Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful
  • Karen Jones - Prif Weithredwr, Cyngor Castell Nedd Port Talbot

Cyfarwyddwyr Cyfetholedig:

  • Chris Llewelyn - Prif Weithredwr, CLlLC

Mae nifer o ymgynghorwyr yn cefnogi'r Bwrdd yn ei holl weithgareddau:

  • Jonathan Rae - CLlLC
  • Jo Hendy - CLlLC
  • Lindsey Phillips - CLlLC
  • Athro Malcolm Beynon - Ysgol Busnes Caerdydd

O’r 25 Ionawr 2017, mae’r Data Cymru wedi ymrwymo i Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant arnom ni i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.

Mae’r safonau iaith mae rhaid i ni gydymffurfio â wedi eu rhannu yn y pedwar dosbarth canlynol:

  • Cyflenwi Gwasanaethau
  • Llunio Polisi
  • Gweithredu
  • Cadw Cofnodion

Ceir manylion y safonau, sut rydym yn cydymffurfio â hwy a sut rydym yn bwriadu monitro ein cydymffurfiaeth yn y ddogfen Ein Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a sut rydym yn cydymffurfio.

Croesawn ohebiaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg a byddwn yn ymateb i ohebiaeth yn yr un iaith. Ni fydd defnyddio’r naill iaith na’r llall yn arwain at oedi.

Ein pobl yw ein hased pennaf. Seilir ein polisïau a’n harferion ar egwyddorion cydraddoldeb a lles, gan sicrhau bod gan ein holl bobl brofiad gwaith cadarnhaol.

Rydym yn annog ac yn hyrwyddo datblygiad staff er mwyn darparu safonau gwasanaeth uchel. Rydym yn cydnabod mai gwaith yw un agwedd yn unig ar fywyd rhywun – felly rydym wedi ceisio sicrhau bod gan ein pobl y rhyddid a’r hyblygrwydd i gyflawni eu gwaith yng nghyd-destun eu bywyd tu allan i’r gwaith. Er bod gennym ffocws cryf ar gyflawni, mae ein polisïau a’n hisadeiledd wedi eu dylunio i gefnogi gwaith hyblyg, o bell, gan ei gwneud yn haws i’n pobl gydbwyso galwadau cartref a gwaith.

Ein swyddfa gofrestredig ni yw: Un Rhodfa’r Gamlas, Heol Dumballs, Caerdydd CF10 5BF.

Rydym yn gwmni cyfyngedig trwy warrant.

Rydym wedi ein cofrestri yng Nghymru - rhif 4082312.

Manylion cyswllt
Data Cymru
Un Rhodfa’r Gamlas
Heol Dumballs
Caerdydd
CF10 5BF
Deyrnas Unedig
Ffôn: 029 2090 9500
Ebost: ymholiadau@data.cymru
Sut i ddod o hyd i ni