Nod
I'ch cyflwyno chi i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau i’ch helpu i grynhoi data a darparu ystadegau hawdd eu deall.
Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau yn ofynnol.
Cynnwys
Gall edrych ar set ddata am y tro cyntaf deimlo'n llethol, ni waeth pa mor fawr neu fach. Gall ystadegau cryno eich helpu i wneud synnwyr o'ch data yn gyflym ac yn hawdd drwy symleiddio'r tueddiadau allweddol. Er enghraifft, gall cymryd cyfartaledd eich helpu i ddeall sut olwg sydd ar eich data.
Mae ystadegau cryno yn aml yn cael eu defnyddio i ymchwilio a disgrifio data cyn mynd ymlaen i wneud dadansoddiad mwy datblygedig. Dyma flociau adeiladu’r rhan fwyaf o ddadansoddiad meintiol.
Mae ein cwrs hyfforddi yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i'ch helpu i ddeall sut i grynhoi eich data yn ystadegau hawdd eu treulio. Byddwch yn defnyddio'r technegau rydych chi wedi'u dysgu trwy weithio trwy ymarferion mewn llyfr gwaith Excel, a anfonir atoch ymlaen llaw. Bydd angen i chi agor y llyfr gwaith hwn yn ystod y cwrs, felly rydym yn awgrymu y byddai cael dwy sgrin yn fantais ar gyfer y cwrs hyfforddi yma, er nad yw'n hanfodol.
Canlyniadau
Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn deall:
- sut i ddehongli ystadegau
- y mesurau ystadegol mwyaf cyffredin
- sut allan nhw gael eu cyfrifo a phryd dylech chi eu defnyddio.
Diddordeb gennych?
I archebu lle ar y cwrs hwn, ewch i TicketSource i weld ein dyddiadau ac amseroedd sydd ar gael. Rydym yn defnyddio TicketSource fel ein system e-docynnau, a bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â'i pholisi preifatrwydd. Byddwn ni (CLlLC) yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddwch i ni i gysylltu â chi ynghylch y cwrs hwn a byddwn yn storio'r wybodaeth hon nes bod y cwrs wedi digwydd. Byddwn yn rhannu eich gwybodaeth gyda chydweithwyr perthnasol yn CLlLC a hwyluswyr allanol eraill, yn ôl yr angen. Rydym yn prosesu data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein polisi preifatrwydd ar gael ar ein gwefan.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 o gynrychiolwyr. Y gost yw:
- Tu allan i lywodraeth leol - £750 a TAW
- Awdurdodau lleol Cymru - £600 a TAW
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.
029 2090 9599
Roisin.Roberts@wlga.gov.uk