• This website is available in English

Data 101: cyflwyniad i ddeall a defnyddio data

Nod

Eich cyflwyno i’r awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i’ch helpu i ddeall a defnyddio data yn effeithiol.

Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.

Cynnwys

Mae data yn sylfaenol i sut rydym ni’n gweithredu fel bodau dynol. Rydym ni’n defnyddio data bob dydd, llawer o weithiau y dydd, a hynny heb yn wybod i ni, yn fwy na thebyg. Data sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen a beth sydd angen ei wneud.

Mae’n bwysig, felly, bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall a defnyddio data. Yn ein cwrs byddwn yn siarad am y gwahanol fathau o ddata a sut mae dod o hyd iddo. Byddwn ni’n eich arwain trwy gyfres o gwestiynau sy’n bwriadu helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall y data rydych chi’n gweithio gydag ef. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan rai technegau i helpu i droi data yn wybodaeth.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs byddwn chi’n deall:

  • beth yw data a sut mae dod o hyd iddo
  • y cwestiynau mae angen i chi eu gofyn wneud yn siŵr eich bod chi’n deall data
  • rhai technegau sylfaenol ar gyfer defnyddio data.

Diddordeb gennych?

I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i TicketSource (Saesneg yn unig) i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael. Rydym yn defnyddio TicketSource fel ein system e-docynnau, a bydd eich data personol yn cael ei brosesu yn unol â'i pholisi preifatrwydd (Saesneg yn unig). Byddwn ni (CLlLC) yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddir i gydgysylltu â chi ynghylch â'r cwrs hwn a byddwn yn storio’r wybodaeth hon nes bod y cwrs drosodd. Byddwn yn rhannu’ch gwybodaeth â chydweithwyr perthnasol CLlLC a hwyluswyr allanol eraill, yn ôl yr angen. Rydym yn prosesu data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein hysbysiad preifatrwydd ni ar gael ar ein gwefan

Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 o gynrychiolwyr. Y gost yw:

  • Tu allan i lywodraeth leol - £600 a TAW
  • Awdurdodau lleol Cymru - £480 a TAW

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, neu os hoffech chi gadw lle ar y cwrs hwn, e-bostiwch Roisin.Roberts@wlga.gov.uk neu ffoniwch 029 2090 9599.

Angen mwy o wybodaeth?

Image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad ac Ymgysylltu Data. Mae hi'n cefnogi ein gwaith ymgysylltu a gwella. Mae hi hefyd yn arwain ein rhaglen waith meithrin gallu.

029 2090 9599

Roisin.Roberts@wlga.gov.uk