• This website is available in English

Posts From Tachwedd, 2017

  • Free Swimming1 Logo

    Darllennwch yr adroddiad dadansoddi diweddaraf am ddata Nofio Am Ddim sy’n dangos y tueddiadau yng Nghymru.

    Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.

    Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.

    Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2016-17:

    • Bu lleihad 33% a 36% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim yn y drefn honno ymhlith gwrywod a menywod 16 oed ac yn iau, o’i gymharu â 2015-16.
    • Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld cynnydd o 2% mewn cyfranogiad mewn nofio cyhoeddus am ddim, o’i gymharu â 2015-16.

    Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.

    I weld adroddiad 2016-17 cliciwch y ddelwedd isod. Sylwch fod yr adroddiad hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

    Free Swimming

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad