• This website is available in English

Newyddion

  • IBC Logo

    Yma fe welwch yr holl newyddion am InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

    Prisiau tai cyfartalog (Ebrill 2020)

    Mae’r data ar gyfer Ebrill 2020 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

    Data genedigaethau yn ôl oedran y fam (2019)

    Mae’r data ar gyfer 2019 am enedigaethau byw yn ôl oedran y fam ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Maint dosbarth cyfartalog (BAc 2019-20)

    Mae’r data ar gyfer BAc 2019-20 am faint dosbarth cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Disgyblion ag ysgolion (BAc 2019-20)

    Mae’r data ar gyfer BAc 2019-20 am disgyblion ag ysgolion ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Nid yw data ysgolion annibynnol yn cael ei gyhoeddi ar gyfer BAc 2019-20 gan na chwblhawyd y casgliad data oherwydd pandemig y coronafeirws. Felly, nid yw'r data canlynol wedi'i ddiweddaru:

    • Nifer yr holl athrawon ysgol cymwys; a
    • Nifer yr athrawon ysgol annibynnol cymwys.

    Cyfrif Hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Gorffennaf 2020)

    Mae ffigyrau diweddaraf (Gorffennaf 2020) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Poblogaeth awdurdod lleol rhagamcanol (ar sail-2018)

    Mae’r data am amcanestyniad o’r boblogaeth (ar sail-2018) ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Mae’r set ddata hon yn cynnwys amcanestyniadau poblogaeth am 22 awdurdod lleol Cymru. Mae’r amcanestyniadau yn rhedeg o’r flwyddyn sylfaen, 2018, tan 2043. Po bellaf i’r dyfodol y mae’r amcangyfrif, lleiaf sicr y bydd.

    Mae’r dulliau a ddefnyddiwyd i gyfrifo amcanestyniadau awdurdodau lleol ar sail-2018 yn wahanol i’r sawl a ddefnyddiwyd i gyfrifo amcanestyniadau ar sail-2014. Y newid pennaf yw:

    • Defnyddio cyfraddau yn hytrach na niferoedd penodedig i fodelu mudo mewnol.

    Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael yng nghyhoeddiad data diweddar Llywodraeth Cymru.

    Amcanestyniadau tylwythau (ar sail-2018)

    Mae’r data am amcanestyniadau tylwythau (ar sail-2018) ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Seilir yr amcanestyniadau o aelwydydd ar amcanestyniadau awdurdodau lleol. Mae rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn ar gael yng nghyhoeddiad data diweddar Llywodraeth Cymru.

    Data imiwneiddiadau plant (BAr 2019-20)

    Mae’r data am ddefnydd imiwneiddiadau plant ar gyfer BAr 2019-20 ar gael nawr yn dilyn cyhoeddiad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

    Arolwg Cenedlaethol Cymru – dangosyddion wedi eu diweddaru

    Mae’r dangosyddion canlynol o Arolwg Cenedlaethol Cymru wedi cael eu diweddaru yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Llesiant cymunedol

    • % o’r bobl sy’n byw mewn aelwydydd mewn amddifadedd materol;
    • % o’r bobl sy’n dweud eu bod yn fodlon neu’n fodlon iawn yn eu gwaith;
    • % o’r bobl sy’n gwirfoddoli; a
    • % o’r bobl sy’n unig.

    Ffordd o fyw (Arolwg Genedlaethol Cymru)

    • % o’r bobl sy’n cyfranogi mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos;
    • % yr oedolion a nododd fod yn ysmygwr;
    • % yr oedolion a nododd lai na dau ymddygiad iachus;
    • % yr oedolion a nododd fod yn weithgar am 150 o funudau yn yr wythnos;
    • % yr oedolion a nododd fod yn weithgar am lai na 30 munud yn yr wythnos;
    • % yr oedolion a nododd fwyta pum cyfran o ffrwythau a llysiau y diwrnod blaenorol;
    • % yr oedolion a nododd eu bod yn defnyddio e-sigaret;
    • % yr oedolion a nododd fod yn ordew (Mynegai Mas y Corff o 30 neu fwy);
    • % yr oedolion a nododd fod yn ordrwm neu’n ordew (Mynegai Mas y Corff o 25 neu fwy); a
    • % yr oedolion a nododd eu bod yn yfed mwy na 14 uned neu fwy o alcohol yr wythnos.

    Sgiliau iaith Gymraeg (Arolwg Genedlaethol Cymru)

    • % o’r bobl sy’n siarad Cymraeg yn feunyddiol ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg.

    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • DataCymru

    Mae CACI wedi cysylltu â ni gyda chynnig i gefnogi awdurdodau lleol Cymru yn yr amseroedd unigryw hyn. Mae CACI yn cynhyrchu amrediad o setiau data masnachol, gan gynnwys Acorn, Household Acorn a Wellbeing Acorn, sy’n gallu cael eu defnyddio i ddeall eich cymunedau’n well ar lefel daearyddiaethau bach.

    Mae’r rhain ar gael ar sail fasnachol fel arfer, ond mae CACI bellach yn trefnu bod y data hwn ar gael am ddim i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, i’ch helpu i nodi pobl agored i niwed yn eich cymunedau. Mae’r cynnig hwn yn ymestyn tan ganol Mehefin i ddechrau a bydd unrhyw gytundeb yn y dyfodol rhyngoch chi a CACI.

    Mae rhagor o wybodaeth am gael gafael ar y data hwn ar gael ar wefan (Saesneg yn unig), CACI, gan gynnwys manylion am sut i gofrestru.

    Sylwch: os ydych chi eisoes yn rhan o’r cytundeb consortiwm presennol sydd gennym ni â CACI, mae’r cynnig hwn yn sefyll ar wahân i’r cytundeb hwnnw ac ni fydd yn cael unrhyw effaith arno.

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau yn y cyfamser, cysylltwch â CACI drwy eu gwefan (Saesneg yn unig) neu â Duncan MacKenzie.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

    Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig (BUA) gyda poblogaeth Cyfrifiad 2011 o 2,000 neu fwy.

    Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn yn 2019, rydym wedi parhau i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, mae’r datganiad diweddaraf yn cynnwys:

    • mapio gorsafoedd trenau a data am gymudwyr;
    • cysylltu’r gwasanaethau iechyd a llesiant lleol â chyfeiriadur Dewis Cymru;
    • ychwanegu data MALlC 2019;
    • gwelliannau i fetadata’r Cyfrifiad; yn ogystal â
    • diweddariadau ymarferol eraill.

    Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

    Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Mae graddau Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) a data’r dangosyddion ar gael bellach yn InfoBaseCymru.

    Mae 1,909 o’r Ardaloedd hyn yng Nghymru, ar draws y 22 awdurdod lleol. Maent yn cael eu graddio o’r mwyaf amddifad i’r lleiaf amddifad yn erbyn yr wyth parth amddifadedd (Incwm, Cyflogaeth, Iechyd, Addysg, Mynediad i Wasanaethau, Diogelwch Cymunedol, yr Amgylchedd Ffisegol a Thai) yn ogystal ag am eu hamddifadedd cyffredinol.

    Mae pob parth yn cynnwys nifer o ddangosyddion ac mae data am y dangosyddion ar gael hefyd ochr yn ochr â graddau’r Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Is.

    Mae’r data a’r graddau yn ffynhonnell werthfawr gwybodaeth er mwyn i awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus, y sawl sy’n llunio polisi a’r cyhoedd ddeall sut mae amddifadedd yn bodoli ledled Cymru.

    I gyrchu’r data, ewch i InfoBaseCymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 7% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

  • Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 14% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

    Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig yr oedd ganddynt boblogaeth, adeg Cyfrifiad 2011, o 2,000 neu fwy.

    Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn beta yn gynharach eleni, rydym wedi parhau i dderbyn adborth gwerthfawr sydd wedi ein helpu i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, gan gynnwys:

    • Ychwanegu data am wasanaethau iechyd a llesiant;
    • Ychwanegu mwy o fapiau ar lefel LSOA i gynnig dadansoddiad am ardaloedd mwy o faint;
    • Y gallu i allforio neu argraffu siartiau at ddibenion adrodd; yn ogystal â
    • Diweddariadau mwy ffwythiannol.

    Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

    Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 10% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Population

    Cyhoeddedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon poblogaeth canol y flwyddyn 2018 ar 26 Mehefin 2019.

    Mae’r amcangyfrifon ar gael ar lefel blwyddyn oedran unigol ac awdurdod lleol. Rydym ni wedi eu cynnwys yn InfoBaseCymru fel bandiau oedran eang i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Cysylltwch â ni os oes arnoch chi angen data am fandiau oedran gwahanol.

    Am fwy wybodaeth am ddata poblogaeth cysylltwch â Rhys Fidler.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor