Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol
Nod yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol yw cefnogi cynghorau lleol i wella eu dealltwriaeth o’u perfformiad eu hun a chlywed a deall barn a chanfyddiadau eu preswylwyr.
Mae cynghorau lleol yng Nghymru yn dod o dan ddyletswyddau cyfreithiol niferus ac amrywiol, y mae llawer ohonynt yn gofyn am ymgysylltu rheolaidd a pharhaus â phreswylwyr. Un o nodau craidd yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol yw cefnogi cynghorau lleol i ddiwallu’r dyletswyddau ymgysylltu presennol hyn a dyletswyddau posibl y dyfodol ond, yn bwysicaf oll, gwella eu dealltwriaeth o’u perfformiad eu hun a chlywed a deall barn a chanfyddiadau eu preswylwyr.
Sut i gymryd rhan
Cysylltwch â’ch awdurdod lleol.
Sut i gysylltu â ni
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol, cysylltwch â ni.
E-bostiwch ni yn: surveys@data.cymru
Ffoniwch ni: 029 2090 9500
Neu ysgrifennwch atom yn: Data Cymru, One Canal Parade, 4 Dumballs Road, Cardiff, CF10 5BF