• This website is available in English

Clywed gan ddinasyddion: Cyflwyniad i ddylunio a chynnal arolygon

Nod

I'ch cyflwyno i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i'ch helpu i ddylunio a chynnal arolygon.

Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi'i anelu at ddechreuwyr. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddylunio neu ddadansoddi arolwg.

Cynnwys

Mae arolygon yn ffordd wych o glywed gan lawer o bobl yn gyflym ac yn gost-effeithiol. Fel arfer caiff gwybodaeth ei gasglu drwy holiadur, y gellir ei ddosbarthu'n electronig, ar bapur, neu hyd yn oed trwy gyfweliad. Efallai mai'r arolwg mwyaf adnabyddus yw'r Cyfrifiad.

Mae llawer o fathau o arolwg. Bydd pa un rydych chi’n ei ddewis yn dibynnu ar ddiben yr arolwg, yr amserlen am gasglu’r canlyniadau, a’r adnoddau sydd ar gael.

Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i bobl sydd angen paratoi, cynhyrchu a dylunio arolygon a dadansoddi’r data canlyniadol.

Canlyniadau

Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:

  • dylunio arolygon
  • y technegau samplo mwyaf cyffredin
  • sut i lunio cwestiynau arolwg
  • sut i beilota a chynnal arolwg
  • sut i ddadansoddi a chyflwyno’r canlyniadau.

Diddordeb gennych?

Mae cyrsiau'n para tua 2.5 awr ac yn costio £50 ynghyd â TAW y cyfranogwr. I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i TicketSource (Saesneg yn unig) i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.

Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 am £750 a TAW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, e-bost at ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.

Angen mwy o wybodaeth?

Image

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Sam Sullivan. Sam yw ein Pennaeth Ystadegau ac Ymchwil, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros ein holl waith lledaenu, arolygu a dadansoddi data.

029 2090 9581

Sam.Sullivan@data.cymru