Nod
Eich cyflwyno i’r awgrymiadau, offer ac adnoddau gorau i’ch helpu i ddeall a defnyddio data yn effeithiol.
Cwrs cyflwyniadol, lefel uchel, yw hwn sy’n cael ei anelu at ddechreuwyr a’r sawl sydd ond yn dechrau defnyddio data. Mae’n fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddulliau a’i gynnwys. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata nac ystadegau.
Cynnwys
Mae data yn sylfaenol i sut rydym ni’n gweithredu fel bodau dynol. Rydym ni’n defnyddio data bob dydd, llawer o weithiau y dydd, a hynny heb yn wybod i ni, yn fwy na thebyg. Data sy’n ein helpu i ddeall beth sy’n mynd ymlaen a beth sydd angen ei wneud.
Mae’n bwysig, felly, bod gennym ni’r data cywir a’n bod yn gallu ei ddeall a’i ddefnyddio’n effeithiol. Mae ein cwrs hyfforddiant yn cynnig arweiniad ymarferol i helpu i feithrin sgiliau a hyder wrth ddeall a defnyddio data. Yn ein cwrs byddwn yn siarad am y gwahanol fathau o ddata a sut mae dod o hyd iddo. Byddwn ni’n eich arwain trwy gyfres o gwestiynau sy’n bwriadu helpu i wneud yn siŵr eich bod chi’n deall y data rydych chi’n gweithio gydag ef. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan rai technegau i helpu i droi data yn wybodaeth.
Canlyniadau
Erbyn diwedd y cwrs byddwn chi’n deall:
- beth yw data a sut mae dod o hyd iddo
- y cwestiynau mae angen i chi eu gofyn wneud yn siŵr eich bod chi’n deall data
- rhai technegau sylfaenol ar gyfer defnyddio data.
Diddordeb gennych?
Mae cyrsiau'n para tua 1.5 awr. Gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 am £600 a TAW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, e-bost at ymholiadau@data.cymru or call 029 2090 9500.
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Róisín Roberts. Róisín yw ein swyddog Mewnwelediad Data ac Ymgysylltu. Mae hi'n cefnogi ein gwaith adeiladu a gwella capasiti.
029 2090 9599
Róisín.roberts@data.cymru