• This website is available in English

Telerau ac Amodau

Telerau defnyddio’r wefan

Darllenwch y telerau ac amodau hyn yn ofalus cyn i chi ddechrau defnyddio’n gwefan a/neu offerynnau rydym wedi’u datblygu a/neu yn eu cynnal.

Drwy ddefnyddio’n gwefan a/neu offerynnau, rydych yn cadarnhau eich bod yn derbyn y telerau defnydd hyn a’ch bod yn cytuno i gydymffurfio â hwy. Os nad ydych yn cytuno â’r telerau defnydd hyn, rhaid i chi beidio â defnyddio’n gwefan a/neu offerynnau.

Newidiadau i’r telerau hyn

Mae’n bosibl y newidiwn y telerau defnydd hyn ar unrhyw adeg drwy ddiwygio’r dudalen hon. Gwiriwch y dudalen hon o bryd i’w gilydd i gymryd sylw o unrhyw newidiadau a wnawn, gan eu bod yn eich rhwymo.

Newidiadau i’n gwefan a/neu offerynnau

Byddwn bob amser yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod gwybodaeth ar ein gwefan ac yn ein hofferynnau yn cael ei chadw mor gywir â phosibl. Fodd bynnag, dylid nodi y gall yr allbynnau hyn fod wedi mynd yn hen ar unrhyw adeg benodol. Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan a/neu offerynnau, nac unrhyw gynnwys sydd ynddynt, yn rhydd rhag gwallau neu hepgoriadau.

Cyrchu ein gwefan a/neu offerynnau

Oni nodir fel arall, mae ein gwefan a/neu offerynnau ar gael yn rhad ac am ddim. Nid ydym yn gwarantu y bydd yr allbynnau hyn, neu unrhyw wybodaeth sydd ynddynt, bob amser ar gael neu heb ymyrraeth iddynt. Caniateir mynediad i’n gwefan a/neu offerynnau ar sail dros dro. Mae’n bosibl y byddwn yn atal dros dro, yn tynnu’n ôl, yn dirwyn i ben neu’n newid y cyfan neu unrhyw ran o’r allbynnau hyn heb rybudd. Ni fyddwn yn atebol i chi os na fydd ein gwefan a/neu offerynnau ar gael am unrhyw reswm ar unrhyw adeg neu am unrhyw gyfnod.

Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol i chi gael mynediad i’n gwefan a/neu offerynnau. Chi sy’n gyfrifol hefyd am sicrhau bod pob person sy’n cyrchu’r allbynnau hyn drwy eich cysylltiad Rhyngrwyd chi a/neu sy’n defnyddio’r system fel rhan o’ch sefydliad chi yn ymwybodol o’r telerau defnydd hyn a thelerau ac amodau cymwys eraill, a’u bod yn cydymffurfio â hwy.

Oni nodir fel arall, mae ein gwefan a/neu offerynnau ar agor i fynediad cyffredinol. Mae’n bosibl y cyfyngwn argaeledd ein gwefan, offerynnau, neu unrhyw wasanaeth neu gynnyrch a ddisgrifir ynddynt i unrhyw berson neu ardal ddaearyddol ar unrhyw adeg. Os dewiswch gyrchu ein gwefan a/neu offerynnau o’r tu allan i’r Deyrnas Unedig, rydych yn gwneud hynny ar eich risg eich hun.

Wrth ddefnyddio a/neu lawrlwytho data o’n gwefan a/neu offerynnau, rhaid i chi atgynhyrchu’r deunydd yn gywir a pheidio â’i ddefnyddio mewn cyd-destun camarweiniol.

Dim dibyniaeth ar wybodaeth

Cymerwn gamau rhesymol i sicrhau bod yr wybodaeth o fewn ein gwefan a/neu offerynnau mor gywir â phosibl. Mae’n bwysig nodi, fodd bynnag, y cymerwn lawer o’n data o sefydliadau eraill. Ni allwn gael ein dal yn gyfrifol am gywirdeb yr wybodaeth hon, a chynghorir y sawl sy’n ei chyrchu i gymryd camau rhesymol i ystyried ei chynnwys cyn gweithredu arni.

Ni wnawn unrhyw gynrychiolaethau, gwarantiadau neu warantau, boed datganedig neu oblygedig, fod yr wybodaeth o fewn ein gwefan a/neu offerynnau yn gywir, yn gyflawn neu’n gyfredol.

Cyfyngiad ein hatebolrwydd

Nid oes dim yn y telerau defnydd hyn yn eithrio, nac yn cyfyngu, ein hatebolrwydd dros farwolaeth neu anaf personol sy’n codi o’n hesgeulustod ni, neu ein twyll neu gamliwio twyllodrus, nac unrhyw atebolrwydd arall na all gael ei eithrio neu ei gyfyngu gan gyfraith Lloegr.

I’r graddau a ganiateir dan y gyfraith, eithriwn bob amod, gwarantiad, cynrychiolaeth neu deler arall a all fod yn gymwys i’n gwefan a/neu offerynnau neu unrhyw gynnwys sydd ynddynt, boed datganedig neu oblygedig.

Ni fyddwn yn atebol i unrhyw ddefnyddiwr am golled neu ddifrod, boed mewn contract, y gyfraith gamweddau (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol, neu fel arall, hyd yn oed os yw’n rhagweladwy, sy’n codi o dan neu mewn cysylltiad â:

  • Defnyddio, neu anallu i ddefnyddio, ein gwefan a/neu offerynnau; neu
  • Ddefnyddio neu ddibynnu ar unrhyw gynnwys a ddangosir o fewn ein gwefan a/neu offerynnau.

Os ydych yn ddefnyddiwr busnes, sylwch yn benodol na fyddwn yn atebol am:

  • Golled elw, gwerthiannau, busnes, neu refeniw;
  • Ymyrraeth â busnes;
  • Colled arbedion a ragwelwyd;
  • Colled cyfle busnes, ewyllys da neu enw da; neu
  • Unrhyw golled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol.

Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan feirws, ymosodiad atal gwasanaeth, neu ddeunydd sy’n dechnolegol niweidiol a allai heintio’ch offer cyfrifiadur, rhaglenni cyfrifiadur, data neu ddeunydd perchnogol arall o ganlyniad i’ch defnydd ar ein gwefan a/neu offerynnau neu i chi lawrlwytho unrhyw gynnwys ohonynt, neu ar unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hwy.

Ni ysgwyddwn unrhyw gyfrifoldeb dros gynnwys gwefannau y mae dolenni â hwy ar ein gwefan a/neu offerynnau. Darperir y cyfryw ddolenni er gwybodaeth i chi yn unig ac ni ddylai gael ei ddehongli fel cymeradwyaeth gennym ni o’r gwefannau hynny. Ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod a allai godi o’ch defnydd arnynt. Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros gynnwys y gwefannau neu’r adnoddau hynny.

Diogelu data a phreifatrwydd

Mae ein polisi preifatrwydd yn disgrifio sut y byddwn yn diogelu’ch gwybodaeth a sut y caiff ei defnyddio o fewn ein gwefan.

Eiddo Deallusol

Mae’r enwau, delweddau, a logos sy’n adnabod Data Cymru yn berchnogol. Ni chaniateir unrhyw ddefnydd ar y cynnwys hwn heb gymeradwyaeth flaenorol Data Cymru.

I drafod defnydd ein henw, delwedd, neu logo cysylltwch ag: enquiries@data.cymru.

Creu dolen â’n gwefan a/neu offerynnau

Cewch greu dolen â’n gwefan a/neu offerynnau, neu sefydlu ein chwiliad yn eich gwefan chi, ar yr amod y gwnewch hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.

Rhaid i chi beidio â gwneud hynny mewn modd sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad, cymeradwyaeth neu ardystiad ar ein rhan ni pan nad oes un yn bodoli. Rhaid i chi beidio â sefydlu dolen â’n gwefan a/neu offerynnau mewn unrhyw wefan nad yw’n eiddo i chi.

Cadwn yr hawl i dynnu’n ôl heb rybudd caniatâd i greu dolen â ni.

Os dymunwch wneud unrhyw ddefnydd ar gynnwys o fewn ein gwefan a/neu offerynnau ac eithrio’r hyn a nodir uchod, cysylltwch ag enquiries@data.cymru.

Feirysau

Nid ydym yn gwarantu y bydd ein gwefan a/neu offerynnau yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau neu feirysau. Chi sy’n gyfrifol am ffurfweddu eich technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadur a phlatfform er mwyn cyrchu ein gwefan a/neu offerynnau. Dylech ddefnyddio’ch meddalwedd amddiffyn rhag feirysau eich hun.

Rhaid i chi beidio â chamddefnyddio ein gwefan a/neu offerynnau drwy gyflwyno’n fwriadol feirysau, trojanau, mwydon, bomiau rhesymeg neu ddeunydd arall, sy’n faleisus neu’n dechnolegol niweidiol. Rhaid i chi beidio â cheisio cael mynediad heb awdurdod i’n gwefan a/neu offerynnau, y gweinyddion mae’r rhain wedi’u storio arnynt nac unrhyw weinydd, cyfrifiadur neu gronfa ddata arall sy’n gysylltiedig â’n gwefan a/neu offerynnau.

Rhaid i chi beidio ag ymosod ar ein gwefan a/neu offerynnau drwy ymosodiad atal gwasanaeth neu ymosodiad dosbarthedig atal gwasanaeth. Drwy dorri’r ddarpariaeth hon, byddech yn cyflawni trosedd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron 1990. Rhoddwn wybod am unrhyw doriad o’r fath i’r awdurdodau perthnasol gorfodi’r gyfraith a chydweithredwn â’r awdurdodau hynny drwy ddatgelu ein hunaniaeth iddynt. Yn achos toriad o’r fath, bydd eich hawl i ddefnyddio’n gwefan a/neu offerynnau yn dod i ben ar unwaith.

Y gyfraith gymwys

Os ydych yn ddefnyddiwr, sylwch mai cyfraith Lloegr sy’n berthnasol i’r telerau defnydd hyn, y pynciau sydd wedi’u trafod ynddyn nhw a modd eu llunio. Rydych chi a ninnau’n cytuno y bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr y awdurdodaeth gyfyngol.

Os ydych yn fusnes, cyfraith Lloegr sy’n berthnasol i’r telerau defnydd hyn, y pynciau sydd wedi’u trafod ynddyn nhw a modd eu llunio (ac unrhyw anghydfodau neu hawliadau anghontractiol). Rydych chi a ninnau’n cytuno ag awdurdodaeth gyfyngol llysoedd Cymru a Lloegr.

Cysylltwch â ni

I gysylltu â ni, anfonwch e-bost at ymholiadau@data.cymru

Diolch am ymweld â’n gwefan.

Diweddarwyd diwethaf: 15/03/2021