Mae'r canllaw hwn yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol, i unrhyw un sy’n dymuno cael trosolwg o pam, sut a phryd y byddech chi efallai’n trefnu ac yn cynnal grŵp ffocws i gefnogi’ch gwaith. Mae’r canllaw:
- yn esbonio beth yw grwpiau ffocws, eu pwrpas, a pham a phryd i’w defnyddio
- yn amlinellu’r prif elfennau mae eu hangen i baratoi grwpiau ffocws effeithiol
- yn disgrifio sut i gynllunio grŵp ffocws
- yn amlinellu sut i ddethol cyfranogwyr a sicrhau cyfranogiad; gan gynnwys dulliau o gefnogi cyfranogwyr anodd eu cyrraedd;
- yn esbonio cyflwyno grŵp ffocws – o’r dechrau i’r diwedd.