Nod
I'ch cyflwyno chi i rai awgrymiadau, offer ac adnoddau i’ch helpu i gyflwyno data’n effeithiol – mewn tablau, siartiau, mapiau neu destun.
Mae’r cwrs yn fwriadol ‘sylfaenol’ ei ddull a’i gynnwys, ac mae wedi ei anelu at gynulleidfa ddechreuwr. Ni thybir na bod unrhyw wybodaeth flaenorol am ddata neu ystadegau yn ofynnol.
Cynnwys
Rydym yn cael ein bwrw gan ddata bob dydd; ar y teledu, ein ffonau clyfar, cyfrifiaduron, ar y radio, mewn papurau newydd, ar hysbysfyrddau, posteri, ac arwyddion, o’r cyfryngau, sylwebwyr, ein cydweithwyr a’n ffrindiau.
Er mwyn sicrhau bod eich negeseuon yn hawdd eu deall ac yn denu sylw, rhaid i chi eu cyflwyno'n glir ac yn gywir. Mae ein cwrs hyfforddiant yn rhoi cyngor ac arweiniad ymarferol i’ch helpu i gyflwyno’ch data chi’n effeithiol, ac i wneud yn siŵr bod eich cynulleidfa’n deall y negeseuon arfaethedig yn gyflym ac yn rhwydd.
Canlyniadau
Erbyn diwedd y cwrs byddwch yn deall:
- yr egwyddorion sy’n sail i gyflwyniad data da
- y dulliau mwyaf cyffredin o gyflwyno data – y da a’r drwg
- sut mae cyflwyno data i wahanol gynulleidfaoedd i greu’r effaith fwyaf.
Diddordeb gennych?
Mae cyrsiau'n para tua 2.5 awr ac yn costio £50 ynghyd â TAW y cyfranogwr. I gadw lle ar y cwrs hwn ewch i TicketSource (Saesneg yn unig) i weld y dyddiadau a’r amserau sydd ar gael.
Gallwn hefyd ddarparu cyrsiau hyfforddi yn benodol ar gyfer eich sefydliad. Fel arfer, rydym yn cyfyngu rhifau i 15 ond gallwn ddarparu hyfforddiant ar adeg a dyddiad sy'n addas i chi am hyd at 20 am £750 a TAW. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau neu os hoffech drafod eich gofynion yn fanylach, e-bost at ymholiadau@data.cymru neu ffoniwch 029 2090 9500.
Angen mwy o wybodaeth?
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am y cwrs hwn, cysylltwch â Sam Sullivan. Sam yw ein Pennaeth Ystadegau ac Ymchwil, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros ein holl waith lledaenu, arolygu a dadansoddi data.
029 2090 9581
Sam.Sullivan@data.cymru