Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar am ddata Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2016-17. Nod yr adroddiad yw cefnogi awdurdodau lleol a Gofal Cymdeithasol Cymru wrth gynllunio am anghenion y gweithlu yn y dyfodol a llywio comisiynu hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.
Dengys yr adroddiad nifer y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a hynny mewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a meysydd eraill. Mae’n edrych hefyd ar dueddiadau’r gweithlu dros amser a throsiant staff a’r gweithlu rhagamcanol dros y tair blynedd nesaf.
I weld adroddiad 2016-17 cliciwch y ddelwedd isod.