Ydych chi’n awyddus i ddysgu mwy am gasglu a defnyddio data? Ydych chi’n gweithio gyda data ac eisiau cael rhagor o werth ohono? Ydych chi’n ystyried ehangu’ch sgiliau?
Rydym ni wedi datblygu cyfres o gyrsiau hyfforddiant a fydd yn eich cyflwyno i:
- Ystadegau cryno
- Cyflwyno data
- Dylunio a dadansoddi arolygon
- Cynllunio a chyflwyno grwpiau ffocws.
Mae cyrsiau wedi'u hanelu at gydweithwyr llywodraeth leol. Sylwch fod uchafswm o ddau gynrychiolydd y cyngor. I gyd-fynd â’r hyfforddiant hwn, byddwn yn cyhoeddi cyfres o arweiniadau yn ogystal. Cynhaliwn ni 16 o sesiynau am ddim drwy gydol y flwyddyn; un o bob un y chwarter!
Gallwch chi gadw lle ar ein cyrsiau trwy gyfrwng Tocyn Cymru, ein partner trefnu lleoedd.
Dewis arall, os oes gennych bedwar neu fwy o bobl o un sefydliad sy’n ymddiddori mewn mynychu cwrs, yw i ni gyflwyno’r hyfforddiant i chi ar adeg a dyddiad sy’n addas i chi, a fydd efallai’n fwy cyfleus a chost-effeithiol. Cysylltwch â Sam Sullivan os hoffech chi drafod eich gofynion chi’n fanylach.