Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi nodweddion demograffig cynghorwyr etholedig ac ymgeiswyr na chawsant eu hethol am etholiadau llywodraeth leol yn 2017.
Yn unol â Mesurau Llywodraeth Leol 2011, cefnogom ni awdurdodau lleol i gynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr llywodraeth leol yn ystod, ac yn dilyn, etholiadau lleol Mai 2017. Mae’r arolwg yn cynnig gwybodaeth am broffil demograffig cynghorwyr ac ymgeiswyr awdurdodau lleol. Cafodd yr un arolwg ei gynnal yn 2012 hefyd.
Am ragor o wybodaeth am yr arolwg neu adroddiad, cysylltwch â Jenny.Murphy@Data.Cymru.