• This website is available in English

Posts From Medi, 2021

  • Thriving Places Wales logo

    Mae diweddariad 2021 Llefydd Llewyrchus Cymru ar gael nawr. Mae’r offeryn yn cynnig mesur o lefel bresenoldeb yr amodau sy’n cefnogi llesiant ar draws ardaloedd awdurdodau lleol.

    Mae’r sgoriau’n mesur amodau ar gyfer llesiant ledled Cymru ar lefel ardaloedd awdurdodau lleol. Nid ydynt yn adlewyrchu perfformiad unrhyw sefydliad, na grŵp o sefydliadau, o fewn yr ardaloedd hyn.

    Mae’r offeryn, a ddatblygwyd ar y cyd â’r Ganolfan dros Lefydd Llewyrchus (Saesneg yn unig), yn cynnig fframwaith adrodd cadarn i gefnogi’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall llesiant yn eu hardal nhw.

    Seilir yr offeryn ar flynyddoedd lawer o waith datblygu mewn ymgynghoriad ag arbenigwyr o bob rhan o’r byd, academyddion, ymarferwyr a chymunedau lleol amrywiol. Yr amodau sydd wedi’u cynnwys y fframwaith yw’r rhai y dangoswyd eu bod bwysicaf i unigolion, cymunedau ac ardaloedd ffynnu. Maent yn diffinio llesiant cynaliadwy fel rhywbeth sy’n cynnig cyfleoedd cyfartal i ffynnu i’r genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol. Mae’r offeryn yn cynnig golwg amgen ar lesiant o’i gymharu â mynegeion sy’n seiliedig ar arian ac amddifadedd.

    Mae dadansoddiad hefyd i gyd-fynd â’r sgoriau a gall defnyddwyr greu cerdyn sgôr pdf am eu hardal awdurdod lleol eu hun.

    Fel ag erioed, os hoffech gael rhagor o gymorth gyda’r data, os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr offeryn neu eisiau cefnogaeth i helpu i’w sefydlu yn eich man gwaith chi, cysylltu â Duncan Mackenzie.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor