• This website is available in English

Newyddion

  • Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

    Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig yr oedd ganddynt boblogaeth, adeg Cyfrifiad 2011, o 2,000 neu fwy.

    Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn beta yn gynharach eleni, rydym wedi parhau i dderbyn adborth gwerthfawr sydd wedi ein helpu i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, gan gynnwys:

    • Ychwanegu data am wasanaethau iechyd a llesiant;
    • Ychwanegu mwy o fapiau ar lefel LSOA i gynnig dadansoddiad am ardaloedd mwy o faint;
    • Y gallu i allforio neu argraffu siartiau at ddibenion adrodd; yn ogystal â
    • Diweddariadau mwy ffwythiannol.

    Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

    Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 10% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Population

    Cyhoeddedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon poblogaeth canol y flwyddyn 2018 ar 26 Mehefin 2019.

    Mae’r amcangyfrifon ar gael ar lefel blwyddyn oedran unigol ac awdurdod lleol. Rydym ni wedi eu cynnwys yn InfoBaseCymru fel bandiau oedran eang i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Cysylltwch â ni os oes arnoch chi angen data am fandiau oedran gwahanol.

    Am fwy wybodaeth am ddata poblogaeth cysylltwch â Rhys Fidler.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 12% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym wrth ein bodd ein bod wedi lansio aelod diweddaraf ein teulu o offer data – ProffilioLleoedd.Cymru

    Mae tystiolaeth ar sail lle yn hanfodol, i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau ac i ddeall sut mae lleoedd yn newid dros amser. Mae hyn wedi denu ffocws cryfach mewn gwaith diweddar er mwyn deall llesiant ar lefel cymunedau’n well.

    Mae creu darlun o le a gallu gwahaniaethu ei nodweddion rhag nodweddion lleoedd eraill yn dod â’i heriau. Yn gyntaf, sut orau mae diffinio ein lleoedd mewn modd cyson, ar yr un pryd â darparu gwybodaeth ar sail ddaearyddol y bydd defnyddwyr gwasanaethau (a dinasyddion) yn eu hadnabod fel trefi, cymunedau, ac ati. Yn ail, her y data meintiol dibynadwy cyfyngedig sydd ar gael ar lefel islaw awdurdodau lleol.

    Rydym wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn edrych ar beth allai fod yn bosibl, gan gynnwys datblygu offeryn peilot llwyddiannus fel ‘prawf o’r cysyniad’ yn gynnar yn 2018.

    IO ran diffinio ‘lle’, rydym wedi defnyddio daearyddiaeth Ardaloedd Adeiledig y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) a phenderfynu ar boblogaeth o 2,000 neu fwy yn ôl Cyfrifiad 2011. Ar gyfer y fersiwn beta, rydym wedi cynnwys set gychwynol o ddata am le. Lle bu’n bosibl rydym wedi ceisio sicrhau cysondeb â’r data y gwyddom eich bod chi a chydweithwyr yn ei ddefnyddio ar lefelau daearyddiaeth eraill. Ar gyfer ein trefi mwy o faint a’n dinasoedd, rydym wedi ychwanegu’r gallu i weld y data am is-ardaloedd (LSOAs). Gall defnyddwyr ddewis gweld data am le sy’n gymharydd hefyd.

    Mae gennym drefniadau cyffrous ar y gweill ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio i Gyfrifiad 2021. Yn y tymor byr, byddem yn croesawu’ch mewnbwn a’ch cyngor yn fawr iawn wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

    Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Andrew.Stephens@Data.Cymru


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Thriving Places Wales logo

    Lansiodd Data Cymru Llefydd Llewyrchus Cymru ym mis Ebrill 2018. Rydym bellach wedi diweddaru'r offeryn gyda data ar gyfer 2019.

    Mae ‘Llefydd Llewyrchus Cymru’ yn nifer cymharol achosion o amodau ar gyfer llesiant ac ansawdd bywyd ar lefel leol yng Nghymru. Seilir yr offeryn ar ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru ond ni ddylai gael ei ddefnyddio’n arweiniad i berfformiad sefydliadau unigol, yn enwedig awdurdodau lleol unigol.

    Fel ag erioed, os hoffech gael rhagor o gymorth gyda’r data, os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr offeryn neu eisiau cefnogaeth i helpu i’w sefydlu yn eich man gwaith chi, cysylltu â Duncan Mackenzie.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos codiad o 19% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • PAMs guidanceYn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi canllawiau Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2019-20.

    Mae’r set ddata hon wedi cael ei datblygu gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn ymgynghoriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae’n ceisio cynnig trosolwg eglur a syml o berfformiad llywodraeth leol.

    Mae’r canllawiau yn cynnwys diffiniadau manwl ar gyfer pob mesur, gan gynnwys canllawiau cynhwysfawr am y mesurau hynny y byddwn yn casglu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth ar sut y gall pob un o’r PAMs yn helpu awdurdodau lleol i ddangos sut maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant.

    Dylai ymholiadau am y dangosyddion PAMs neu’r canllawiau gael eu hanfon at pienquiries@data.cymru



    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 4% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Evaluation

    Ydych chi’n deall y gwahaniaeth rydych yn ei wneud? Ydych chi’n gwybod beth sy’n gweithio? Allwch chi ddangos effaith eich strategaethau, polisïau neu ymyriadau?

    Os yw’r cwestiynau hyn yn swnio’n gyfarwydd, yna mae’n debyg y byddwch am ymgymryd â gwerthuso i roi’r atebion i chi. I gefnogi’r sawl sy’n ymgymryd â gwerthuso, rydym wedi lansio Canllaw i Werthuso. Mae’r canllaw, a gafodd ei ddatblygu gyda chefnogaeth partneriaid cenedlaethol, yn gyflwyniad i werthuso ac yn disgrifio’r camau a’r ffactorau allweddol mae angen eu cymryd i ystyriaeth wrth gynllunio gwerthusiad.

    Nid yw’r canllaw yn ceisio bod yn ffynhonnell ddiffiniadol gwybodaeth am werthuso. Ei nod yw trafod y cysyniadau a’r derminoleg allweddol, gan gynnwys mathau o werthuso, sylfeini tystiolaeth ac opsiynau o ran mesur. Mae’n bwriadu cyfleu’r camau angenrheidiol mae eu hangen ar gyfer gwerthusiad effeithiol a chymesur. Hefyd mae’n eich cyfeirio at arweiniad a chymorth pellach. Ein bwriad yw datblygu’r canllaw ymhellach wrth i’r sector cyhoeddus esblygu wrth ddeall a defnyddio gwerthuso.

    Yn ogystal â’r canllaw, gallwn helpu partneriaid gyda’u gwerthusiadau, boed eich helpu i gynllunio’ch gwaith gwerthuso neu eich helpu gyda’ch gweithgarwch manwl.

    Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am sut allwn eich cefnogi chi, cysylltwch â ni. Rydym yma i helpu!


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor