• This website is available in English

Newyddion

  • WfBGwyddom i gyd mai gweithlu corff yw ei ased mwyaf gwerthfawr. Mae hyn yn arbennig o wir yn y sector cyhoeddus lle mae’r mwyafrif o weithwyr yn uniongyrchol gyfrifol am gefnogi unigolion a chymunedau i ffynnu. O ddarparu addysg o’r radd flaenaf i’ch plant a gwneud yn siŵr bod eich ardal leol yn ddiogel ac yn lân, i sicrhau bod y sawl sydd angen gofal a chymorth yn eu derbyn, mae’r unigolion hyn yn chwarae rhan allweddol mewn ein helpu ni i gyflawni llesiant. Oni fyddai’n braf gwybod mwy am y gweithlu sy’n chwarae rhan mor bwysig yn ein bywydau ni i gyd? Wel, does dim angen edrych ymhellach…

    Cysylltu’r enwau â’r wynebau…

    Wel, ddim yn union, ond yr wythnos hon rydym ni wedi cyhoeddi set ddata ‘Gweithlu awdurdodau lleol’ newydd yn InfoBaseCymru. Mae’r set ddata, a welir dan thema ‘Llywodraeth leol’, yn rhoi rhywfaint o wybodaeth bennawd am weithlu pob un o awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys eu hoedran, eu rhywedd a’u cyflog. Bydd yn eich helpu i ddeall nodweddion y gweithlu presennol a sut allai’r sefyllfa newid yn y dyfodol.

    Ac yn ogystal…

    Mae’r data wedi cael ei gyhoeddi fel data agored o dan delerau Trwydded Llywodraeth Agored (OGL), sy’n golygu bod y data yn glir ac yn hygyrch er mwyn i unrhyw un gael ei ddefnyddio, ei ailddefnyddio a/neu ei ddefnyddio at ddiben arall yn rhad ac am ddim ac mewn unrhyw fformat a ddewisant.

    Mae’n rhan o fenter ehangach i ddatgelu data am y gweithlu ar draws y sector cyhoeddus i gyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r un wybodaeth am eu gweithlu hwythau hefyd a disgwyliwn i gyrff eraill drefnu bod eu data ar gael yn ystod y misoedd nesaf. Mae gwybodaeth bellach am y fenter hon ar gael ym mlog ‘Data a Digidol’ diweddar Llywodraeth Cymru.

    Gallwch weld data gweithlu awdurdodau lleol yn InfoBaseCymru.

    Mae data Llywodraeth Cymru ar gael yn StatsWales.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Population

    Cyhoeddedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol amcangyfrifon poblogaeth canol y flwyddyn 2017 ar 28 Mehefin 2018.

    Mae’r amcangyfrifon ar gael ar lefel blwyddyn oedran unigol ac awdurdod lleol. Rydym ni wedi eu cynnwys yn InfoBaseCymru fel bandiau oedran eang i’w gwneud yn haws eu defnyddio. Cysylltwch â ni os oes arnoch chi angen data am fandiau oedran gwahanol.

    Am fwy wybodaeth am ddata poblogaeth cysylltwch â Jenny Murphy.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • CandidatesMae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad sy’n crynhoi nodweddion demograffig cynghorwyr etholedig ac ymgeiswyr na chawsant eu hethol am etholiadau llywodraeth leol yn 2017.

    Yn unol â Mesurau Llywodraeth Leol 2011, cefnogom ni awdurdodau lleol i gynnal arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr llywodraeth leol yn ystod, ac yn dilyn, etholiadau lleol Mai 2017. Mae’r arolwg yn cynnig gwybodaeth am broffil demograffig cynghorwyr ac ymgeiswyr awdurdodau lleol. Cafodd yr un arolwg ei gynnal yn 2012 hefyd.

    Am ragor o wybodaeth am yr arolwg neu adroddiad, cysylltwch â Jenny.Murphy@Data.Cymru.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 12% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym ni wedi cyhoeddi adroddiad yn ddiweddar am ddata Cynllunio’r Gweithlu Gweithwyr Cymdeithasol 2016-17. Nod yr adroddiad yw cefnogi awdurdodau lleol a Gofal Cymdeithasol Cymru wrth gynllunio am anghenion y gweithlu yn y dyfodol a llywio comisiynu hyfforddiant gweithwyr cymdeithasol yng Nghymru.

    Dengys yr adroddiad nifer y gweithwyr cymdeithasol sy’n gweithio mewn awdurdodau lleol a hynny mewn Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a meysydd eraill. Mae’n edrych hefyd ar dueddiadau’r gweithlu dros amser a throsiant staff a’r gweithlu rhagamcanol dros y tair blynedd nesaf.

    I weld adroddiad 2016-17 cliciwch y ddelwedd isod.

    SWWP image


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Thriving Places Wales logo

    Mae ‘Llefydd Llewyrchus Cymru’ â lansiwyd ar Ebrill 24  yn cyflwyno ffordd newydd ac arloesol o fesur llesiant a’r amodau sy’n caniatáu i bobl a llefydd ffynnu yng Nghymru.

    Llefydd Llewyrchus Cymru’ yw’r dadansoddiad mwyaf cynhwysfawr o’r ffordd mae amodau lleol ar gyfer llesiant yn amrywio ar draws Cymru. Caiff data ei ddangos ar lefel awdurdod lleol a’i asesu yn erbyn tri phrif ddimensiwn – amodau lleol, cynaliadwyedd a chydraddoldeb. Caiff y data ei ategu gan fwy na 50 mesur ar wahân sy’n trafod meysydd fel iechyd, addysg a gwaith.

    Am fwy o wybodaeth am y teclyn, cysylltwch â Duncan Mackenzie.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • PAMs guidanceYn ddiweddar rydym wedi cyhoeddi canllawiau Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAMs) 2018-19.

    Mae’r set ddata hon wedi cael ei datblygu gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan arweiniad Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), mewn ymgynghoriaeth ag awdurdodau lleol, ac mae’n ceisio cynnig trosolwg eglur a syml o berfformiad llywodraeth leol.

    Mae’r canllawiau yn cynnwys diffiniadau manwl ar gyfer pob mesur, gan gynnwys canllawiau cynhwysfawr am y mesurau hynny y byddwn yn casglu’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol. Rydym hefyd wedi cynnwys gwybodaeth ar sut y gall pob un o’r PAMs yn helpu awdurdodau lleol i ddangos sut maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant.

    Dylai ymholiadau am y dangosyddion PAMs neu’r canllawiau gael eu hanfon at pienquiries@data.cymru


    Postio gan
    Chris Beck

    Categorïau: Cyhoeddiad
  • Free Swimming1 Logo

    Yn gyffredinol, mae’r data nofio am ddim diweddaraf yn dangos lleihad o 15% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl iau a phobl hŷn fel ei gilydd, o’u cymharu â’r un cyfnod y llynedd.

    Eisiau gweld mwy? Cymerwch gip ar ein pecyn Nofio Am Ddim rhyngweithiol i Gymru.

    Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Strategy image

    Gyda brand newydd dynamig mae ein cynllun strategol yn disgrifio dyfodol newydd cyffrous a fydd yn gweld Data Cymru ar flaen y gad mewn perthynas â data yng Nghymru!

    Gallwch chi ddarllen ein cynllun yma.

    Os hoffech chi siarad â ni am gyfleoedd i gydweithredu yn y daith gyffrous hon, mae pob croeso i chi gysylltu â ni drwy e-bostio ymholiadau@data.cymru neu ffonio 029 2090 9500.

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Vacancy image

    Rydym yn falch o fod wedi cefnogi Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yn datblygu eu Porth ar-lein newydd. Mae’r lansiad yn nodi cam cyntaf pwysig yn dwyn tystiolaeth ynghyd am y trydydd sector yng Nghymru mewn un adnodd deinamig sengl. Lansiwyd y Porth yn nigwyddiad gofod3 y WCVA ar 8 Mawrth. Mae’r Porth Data, sy’n unigryw i Gymru, yn rhoi’r trydydd sector o dan chwyddwydr, gan ddatgelu ymdrechion arwrol elusennau, mentrau cymdeithasol a chyrff eraill sy’n darparu manteision sylweddol, yn aml i’r rhai mwyaf bregus. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r WCVA i ddatblygu’r Porth ymhellach.

    Er mwyn cael mynediad i’r Porth ymwelwch â gwefan y WCVA os gwelwch yn dda.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor