Gweithiwn ar y cyd â Chwaraeon Cymru i gasglu, dadansoddi ac adrodd am ddata Nofio am Ddim oddi wrth awdurdodau lleol yng Nghymru.
Nod y gwaith hwn yw gwerthuso effaith y Fenter Nofio am Ddim yng Nghymru drwy ddefnyddio’r data yn effeithiol.
Dyma rai o’r prif bwyntiau o ddata 2015-16:
- Bu lleihad o 25% yn nifer y nofiadau cyhoeddus am ddim i bobl ifanc, o’u cymharu â 2014-15.
- Mae’r grŵp oedran 60 ac yn hŷn wedi gweld lleihad o 4% mewn nofio cyhoeddus am ddim hefyd, o’u cymharu â 2014-15.
Dysgwch fwy a gweld sut mae cyfranogiad yn eich awdurdod chi drwy fynd i’n hoffer Nofio am Ddim.
Am fwy o wybodaeth am ddata Nofio am Ddim cysylltwch ag Adrian Smith.
Postio gan
y Golygydd / the Editor
20/06/2016