• This website is available in English

Newyddion

  • Poverty dashboard

    Ein dangosfwrdd “Golwg ar dlodi” wedi'i ddiweddaru. Mae’r dangosfwrdd yn dwyn ynghyd ddata sy’n ymwneud â mesurau tlodi ar draws themâu allweddol. Ei nod yw eich helpu i ddeall mwy am dlodi yn ardal eich awdurdod lleol.

    Rydym wedi ychwanegu rhywfaint o ddata ychwanegol, gan gynnwys:

    • Data cyfrifiad 2021, wedi’i ddadansoddi yn ôl awdurdod lleol ac ardal gynnyrch ehangach is, lle bo ar gael. Mae diweddariadau data yn cynnwys aelwydydd mewn amddifadedd, cymwysterau yn ôl oedran, deiliadaeth aelwydydd a chyfanheddiad aelwydydd.
    • Data o Ymddiriedolaeth Trussell ynghylch parseli bwyd a chanolfannau dosbarthu.
    • Data ynghylch teuluoedd sydd ag incwm isel absoliwt a chymharol, gan gynnwys y teuluoedd hynny sydd mewn cyflogaeth.
    • Data OFCOM ynghylch tlodi digidol.
    • Data ychwanegol o Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn benodol o dan themâu ‘iechyd’ a’r ‘amgylchedd ffisegol’.

    Cymerwch gip arno ac edrychwch ar y mewnwelediadau diweddaraf...


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Equalities dashboard

    Mae deall safbwyntiau preswylwyr yn hanfodol ar gyfer llywodraethu effeithiol. Mae arolygon preswylwyr yn ffordd bwysig o gasglu’r adborth hwn. Fodd bynnag, cyn y prosiect hwn, roedd pob arolwg preswylwyr a gynhaliwyd yng Nghymru yn unigryw, a’i gwnaeth yn anodd cymharu canlyniadau o un cyngor i’r llall. Gwelsom gyfle i wella cysondeb a chymaradwyedd yr arolygon hyn trwy fabwysiadu dull ‘Unwaith i Gymru’.

    Mewn cydweithrediad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynghorau lleol, datblygom arolwg preswylwyr cyson, modwlaidd, dwyieithog, a fyddai’n cael ei gynnig i bob cyngor lleol yng Nghymru. Nodau penodol y prosiect oedd:

    • Lleihau costau datblygu a chynnal trwy safoni a chanoli;
    • Gwella ansawdd a chymaradwyedd data trwy safoni;
    • Cynnig dirnadaeth ddefnyddiadwy trwy ddangosfwrdd canlyniadau; a
    • Hyrwyddo sgyrsiau am wella trwy gymharu a meincnodi.

    Lansiom yr Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol yng Ngorffennaf 2024, dim ond chwe mis  ar ôl y trafodaethau cyntaf. Yn y cyfnod hwn, gwnaethom ni ddatblygu’r arolwg cenedlaethol, cymeradwyo’r dulliau o ddiogelu a rhannu data, a chreu dangosfwrdd lledaenu.

    Darllenwch ragor i ddysgu am y llwyddiannau, yr heriau, a beth sy’n dod nesaf.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • IBC Logo

    Yma fe welwch yr holl newyddion InfoBase gan gynnwys diweddariadau ar y system a’i chynnwys.

    Busnesau yn ôl maint (2024)

    Mae’r data at gyfer 2024 am fusnesau yn ôl maint ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Busnesau yn ôl diwydiant (2024)

    Mae’r data at gyfer 2024 am fusnesau yn ôl diwydiant ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Prisiau tai cyfartalog (Mehefin 2024)

    Mae’r data ar gyfer Mehefin 2024 am brisiau tai cyfartalog ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan y Gofrestrfa Tir yn ddiweddar.

    Plant sy'n derbyn gofal a chymorth (2023)

    Mae’r data ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru:

    • Plant sy'n derbyn gofal a chymorth

    • Plant sy'n derbyn gofal a chymorth, yn ôl oedran

    • Plant sy'n derbyn gofal a chymorth, yn ôl ethnigrwydd

    • Plant sy’n derbyn gofal a chymorth, yn ôl categori angen

    • Iechyd plant sy’n derbyn gofal a chymorth

    • Ffactorau rhieni plant sy’n derbyn gofal a chymorth

    • Plant sy’n derbyn gofal, yn ôl categori angen (Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth)

    • Ffactorau rhieni plant sy’n derbyn gofal (Cyfrifiad Plant sy'n Derbyn Gofal a Chymorth)

    • Plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant, yn ôl categori angen

    • Ffactorau rhieni plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant

    • Plant eraill sy’n derbyn gofal a chymorth, yn ôl categori angen

    • Ffactorau rhieni plant eraill sy’n derbyn gofal a chymorth

    Cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (Awst 2024)

    Mae ffigyrau diweddaraf (Awst 2024) cyfrif hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith nawr ar gael yn dilyn diweddariad y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

    Data Allforion (chwarter diweddaraf, 2024)

    Mae data Allforion Ebrill 2024 – Mehefin 2024 ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM).

    Cyfrif hawlwyr (Awst 2024)

    Mae’r data am Awst 2024 ar nifer y bobl o oedran gweithio sy'n hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Diweddariadau data Iechyd meddwl (chwarter diweddaraf, 2024)

    Mae data Ebrill - Mehefin 2024 am Iechyd meddwl ar gael nawr yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Bydd y diweddariad nesaf ar gael ym mis Tachwedd 2024.

    Tablau Daearyddiaeth (Awst 2024)

    Rydym ni wedi cyhoeddi tabl cyfeirio daeryddiaeth diweddaraf (Awst 2024) i’ch helpu i ddeall pa awdurdod lleol, ward neu fwrdd iechyd lleol mae cod post ynddo.

    Mae’r tabl hwn yn cynnwys enwau a chodau adnabod daearyddiaethau ystadegol Cymru, o’r cod post trwodd i’r bwrdd iechyd lleol, a sut maent yn ymwneud â’i gilydd.

    Bydd y data yn cael eu diweddaru’n chwarterol yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

    Ceiswyr Lloches (chwarter diweddaraf, 2024)

    Mae data Ebrill - Mehefin 2024 am Ceiswyr Lloches ar gael nawr yn dilyn cyhoeddiad gan y Swyddfa Gartef.

    Data cyfaint traffig (2023)

    Mae’r data ar gyfer 2023 am gyfaint traffig ar gael bellach yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

    Nodwch fod y data am 2008 i 2020 hefyd wedi’u ddiwygio.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor

    Categorïau: Diweddariadau data
  • Equalities dashboard

    Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein Dangosfwrdd deall cydraddoldebau bellach ar gael. Ysbrydolwyd y dangosfwrdd hwn gan yr adroddiad ‘A yw Cymru’n Decach?’ a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC), sy’n defnyddio data i asesu cynnydd ar gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru.

    Cynlluniwyd y dangosfwrdd i gefnogi cynghorau lleol yng Nghymru i ddeall i ba raddau y gall pawb ffynnu ar lefel leol. Mae'n dod â data cydraddoldebau ynghyd, o ffynonellau amrywiol, mewn un lle. Mae’n galluogi cynghorau lleol i weld sut mae pob carfan o’r boblogaeth yn cael ei chynrychioli ac yn cymharu hyn ar draws gwahanol grwpiau.


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor
  • Rydym yn edrych ymlaen at gymryd rhan yn gofod3, y digwyddiad sector gwirfoddol mwyaf o'i fath yng Nghymru.

    Trefnir gofod3 gan CGGC ar y cyd â’r sector gwirfoddol yng Nghymru.

    Eleni, am y tro cyntaf ers 2019, mae gofod3 yn cael ei gynnal fel digwyddiad wyneb yn wyneb ar 5 Mehefin 2024 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

    Rydym yn falch iawn o fynychu gofod3 fel arddangoswr! Dewch i gwrdd â ni ynghyd ac ystod eang o arddangoswyr o’r sectorau gwirfoddol, cyhoeddus a phreifat yn y farchnad ryngweithiol a gwneud cysylltiadau a allai helpu i fynd â’ch gwaith i’r lefel nesaf.

    Waeth a ydych chi’n ymddiriedolwr, yn aelod staff, yn wirfoddolwyr neu’n bob un o’r rhain, gofod3 yw eich gofod unigryw i fyfyrio, dysgu a chynllunio ar gyfer y dyfodol.  

     


    Postio gan
    y Golygydd / the Editor