• This website is available in English

Proffilio Lleoedd Cymru: Diweddariad Medi

Rydym wedi lansio’r datganiad diweddaraf i’n hofferyn Proffilio Lleoedd Cymru.

Nod yr offeryn yw cefnogi awdurdodau lleol Cymru, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a’u partneriaid i gynllunio a chyflenwi gwasanaethau, deall sut mae lleoedd yn newid dros amser a deall llesiant ar lefel gymunedol yn well. Mae’r offeryn yn cynnwys data am 192 o ddaearyddiaethau Ardal Adeiledig yr oedd ganddynt boblogaeth, adeg Cyfrifiad 2011, o 2,000 neu fwy.

Yn sgîl lansiad llwyddiannus ein hofferyn beta yn gynharach eleni, rydym wedi parhau i dderbyn adborth gwerthfawr sydd wedi ein helpu i ddiweddaru a datblygu’r offeryn ymhellach, gan gynnwys:

  • Ychwanegu data am wasanaethau iechyd a llesiant;
  • Ychwanegu mwy o fapiau ar lefel LSOA i gynnig dadansoddiad am ardaloedd mwy o faint;
  • Y gallu i allforio neu argraffu siartiau at ddibenion adrodd; yn ogystal â
  • Diweddariadau mwy ffwythiannol.

Mae gennym gynlluniau cyffrous yn yr arfaeth ar gyfer yr offeryn, gyda ffocws hirdymor ar ei botensial i gefnogi deall y data sy’n deillio o Gyfrifiad 2021. Yn y cyfamser, byddwn yn chwilio am fewnbwn oddi wrth ddefnyddwyr wrth i ni geisio ychwanegu rhagor o ddata ac estyn ei ymarferoldeb.

Os oes gennych unrhyw feddyliau neu syniadau, neu os hoffech sgwrsio am yr offeryn, cysylltwch ag Tom.brame @data.cymru.

Postio gan
y Golygydd / the Editor
30/09/2019