• This website is available in English

Mae’r cynnydd ar ein Porth Data Agored yn mynd yn ei flaen ar garlam!

Blog

Yn ein blog blaenorol, esboniom ni sut roedd eich ymgysylltiad yn ein digwyddiadau data agored cychwynnol wedi amlygu’r angen i ni greu ‘porth’ ar-lein i’ch cefnogi wrth gyhoeddi eich data agored. Roeddem yn cydnabod yr angen i hyn fod yn ymdrech gydweithredol. Wedi’r cyfan, rydym am wneud yn siŵr bod y porth yn hawdd i bawb ei ddefnyddio.

Felly, beth ydym ni wedi ei wneud hyd yma?

Penderfynom ni greu’r Porth mewn sawl cam, gyda’ch mewnbwn chi’n dod yn fwyfwy pwysig wrth iddo fynd yn ei flaen. Ein tasg gyntaf du creu cynnyrch sylfaenol hyfyw - system â nodweddion gweithredol sylfaenol, y mae modd adeiladu arni mewn ymateb i adborth a syniadau defnyddwyr. Rhan hollbwysig o’n gwaith yw hon - mae angen gosod y sylfeini nawr er mwyn gwneud yn siŵr bod y Porth yn datblygu’n ddi-dor yn y dyfodol. Rydym ni eisiau i’n Porth Data Agored fod yn hyblyg i addasu i’ch anghenion chi.

Yn ystod y cyfnod datblygu cychwynnol hwn, rydym yn canolbwyntio ar y data ei hun ac yn benodol y gallu i chwilio amdano a’i lawrlwytho. Gan hynny:

  • Bydd yr holl ddata yn y Porth yn agored a chaiff unrhyw un ei lawrlwytho;
  • Bydd data ar gael mewn amrywiaeth o fformatau gwahanol;
  • Bydd modd chwilio setiau data yn ôl awdurdod lleol; a
  • Bydd safon metadata sylfaenol, hawdd ei defnyddio, yn cael ei chynnwys.

Blog

 

Yn ogystal, er mwyn llwytho data i’r Porth, bydd mynediad arbennig yn cael ei roi i Ddefnyddwyr a Rheolwyr enwebedig. Bydd Defnyddwyr a Rheolwyr yn gallu llwytho a thynnu setiau data o’u sefydliad hwy. Hefyd bydd Rheolwyr yn gallu ychwanegu a thynnu Defnyddwyr lleol.

 

 

 

Ymhen amser, rydym yn bwriadu:

  • Cynnig i bob defnyddiwr y gallu i bori data yn ôl manylion a meysydd eraill – fel rhanbarth, thema, neu allweddair;
  • Ehangu’r safon metadata fel bod setiau data yn cael eu disgrifio a’u labelu’n gywirach, gan sicrhau bod metadata yn nesáu at safonau gorau’r byd; a
  • Chynnig i ddefnyddwyr y gallu i rannu amrywiol fathau o ddata cyfyngedig drwy’r system – rydym yn cydnabod nad yw’n bosibl gwneud pob darn o ddata yn agored a dymunwn gynnig dull syml i awdurdodau lleol rannu data ag unigolion neu grwpiau penodol.

Mae arnom ni angen eich adborth chi

Blog

Rydym yn meddwl hefyd am ein llwybr hirdymor – a dyna ble bydd eich adborth chi’n hanfodol. Rydym wedi siarad o’r blaen am nodi rhai setiau data y gellid trefnu eu bod ar gael drwy APIs. Rydym yn ystyried hefyd yn union pa ‘safon’ o ddata agored dylem ni ei chynnig – dylem ni weithio tuag at safon orau’r byd neu roi cynnig ar rywbeth gwahanol? Yn ddiau, wrth i chi ddechrau gweld mwy o’n Porth yn ystod y misoedd nesaf, bydd gennych chi syniadau a meddyliau i’w rhannu â ni.

Felly, yn gynnar yn 2020 bydd gennym ni brototeip o’n Porth Data Agored i’w ddangos i chi. Byddem wrth ein bodd petai awdurdodau lleol yn dechrau ychwanegu eu data at y Porth a hefyd yn rhoi prawf ar ei nodweddion sylfaenol. Cadwch yn effro am fwy o wybodaeth.

Os hoffech chi wybod mwy neu os hoffech chi helpu wrth brofi’r system – cysylltwch â ni.

Ynglŷn â’r awdur

Daniel Cummings

Dan yw’n prif swyddog ar gyfer data agored. Mae Dan hefyd yn cefnogi’n gwaith partneriaeth ar draws pob sector a mae’n darparu cymorth i ystod o ffrydiau gwaith casglu data.

Cyswllt

029 2090 9526

Daniel.Cummings@data.cymru

 

Postio gan
y Golygydd / the Editor
09/01/2020