• This website is available in English

Gosod data a hysbysrwydd wrth galon darparu gwasanaethau cyhoeddus

Rhagair

Bwrdd Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru, mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno’n cynllun strategol, ‘Gosod data a hysbysrwydd wrth galon darparu gwasanaethau cyhoeddus’, lle rydym yn nodi ffocws a chyfeiriad ein gwaith am y blynyddoedd nesaf.

Wedi gwasanaethu ar Fwrdd yr Uned Ddata ers dros ddegawd, rwyf wrth fy modd i fod wedi f’ethol yn Gadeirydd ar yr adeg gyffrous hon i’r Uned. Wrth lunio’r cynllun hwn, mae’r Bwrdd wedi trafod pwysigrwydd data a hysbysrwydd i wasanaethau cyhoeddus effeithiol. Rydym yn cydnabod y cynnydd mae’r Uned wedi ei wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, y rôl mae wedi ei chwarae a’r cyfraniad pwysig mae wedi ei wneud. Serch hynny, gwyddom y gall y corff gyfrannu ymhellach, ac fel Bwrdd rydym yn gyffrous i glywed am y cyfleoedd sy’n bodoli i’r corff yn y cyfnod sy’n dod.

Yn yr un modd â’r mwyafrif o strategaethau, y pethau bychain a fydd yn bwysig. Rydym wedi dechrau datblygu cynllun busnes ar gyfer 2018-19, a fydd yn dechrau pennu sut rydym yn bwriadu cyflenwi’r uchelgeisiau a nodir yn ein cynllun strategol. Byddwn yn rhannu hwn cyn bo hir.

Byddwch wedi sylwi bod y cynllun strategol yn dod law yn llaw â newid cyffrous i’n brandio, sy’n gweld ein teitl gweithredol yn newid o’r Uned Ddata i ‘Data Cymru’.  Mae lansiad ein cynllun yn cynnig cyfle amserol i ni gyflwyno’r newid hwn. Mae ein hunaniaeth newydd, fodern wedi cael ei datblygu i gefnogi’n presenoldeb ar-lein cynyddol ac i adlewyrchu’r cyfeiriad hyderus, blaengar a welir yn y cynllun.

Er bod y cynllun strategol yn nodi cyfleoedd i Data Cymru ddarparu arweinyddiaeth, mae ganddo ffocws yr un mor gryf ar bwysigrwydd gwaith partneriaeth a chyflenwi’n gydweithredol. Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’n cydweithwyr ledled llywodraeth leol a chyrff partner, i sicrhau bod data a hysbysrwydd yn briodol wrth galon darparu gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol yng Nghymru.

I gloi, ar fy rhan i fy hunan, fy Is-gadeirydd y Cyng Geraint Hopkins a holl Fwrdd yr Uned Ddata, hoffwn ailadrodd y bydd y bwrdd yn gwneud popeth sy’n bosibl i gefnogi Cyfarwyddwr a staff yr Uned i wireddu’r uchelgais a bennir yn y cynllun hwn.

Y Cynghorydd Colin Mann

Cadeirydd Bwrdd Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru

Cyd-destun ein gwaith

Mae gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i gael eu cyflenwi yn erbyn cefndir adnoddau gostyngol a galw cynyddol. Yn fwy nag erioed, mae’n hanfodol bwysig sicrhau bod dyluniad a darpariaeth gwasanaethau o’r fath yn cael ei lywio gan dystiolaeth berthnasol a’i seilio arni.

Sefydlwyd Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru yn 2001 i weithio “gydag ac ar ran awdurdodau lleol yng Nghymru ar faterion data ac ystadegau”. Roedd ein gwaith cynnar yn canolbwyntio ar gasglu data perthnasol oddi wrth awdurdodau lleol a’i ddefnyddio i lywio a chefnogi gwella gwasanaethau. Bu tynnu’n ôl ein Grant Gwella yn 2015, pan gwtogwyd ein cyllid gan fwy na thraean, yn arwydd o newid sylfaenol yn ein cyfeiriad strategol - un a fu’n sylfaen i’r Uned fel y mae hi heddiw.

Rydym wedi ceisio erioed troi data yn dystiolaeth mae ei hangen i gefnogi darpariaeth gwasanaethau llywodraeth leol. Bellach, fel ‘Data Cymru’, mae ein rhaglen waith bresennol yn cynnwys:

  • lledaenu data lleol a chenedlaethol drwy byrth ar y we gan gynnwys InfoBaseCymru – ein porth ystadegau cyhoeddus ar y we;
  • meincnodi gwasanaethau awdurdodau lleol;
  • asesiadau o berfformiad llywodraeth leol a gwefan ‘FyNghyngorLleol’;
  • darparu data yn sail i asesiadau poblogaeth a llesiant lleol; a
  • rhoi cyngor a chymorth gydag arolygon.

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol wedi darparu atebion lleol yn gynyddol mewn partneriaeth â gwasanaethau cyhoeddus eraill, ac wedi cael eu herio i ddatblygu modelau darparu gwasanaeth arloesol sy’n torri ar draws ffiniau sefydliadol traddodiadol. Mae gwneud hynny mewn modd gwir gynaliadwy, ar yr un pryd â bodloni heriau cyni ariannol, yn golygu nad yw busnes fel arfer yn opsiwn. Gan hynny, rhaid i ffocws ein gwaith fod ar ddod â data perthnasol ynghyd fel tystiolaeth sy’n sail i benderfyniadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol am sut orau i ddarparu gwasanaethau hanfodol ar gyfer dinasyddion Cymru.

Mewn hinsawdd o weddnewid gwasanaethau, mae data o’r fath yn cynnig tystiolaeth sy’n gadael i gyrff:

  • ddeall yr angen a’r galw am wasanaethau;
  • asesu gallu i ymateb i’r angen sydd wedi cael ei nodi;
  • asesu’r opsiynau cyflenwi a nodi a gwerthuso atebion; a
  • deall opsiynau o ran effeithlonrwydd cost.

Mae hefyd yn gallu cael ei ddefnyddio gan wleidyddion etholedig, y cyhoedd ac eraill i asesu a deall sut mae cyrff a gwasanaethau yn perfformio, a dal gwasanaethau cyhoeddus i gyfrif.

Yr heriau sy’n ein hwynebu a’r cyfleoedd a welwn

Mae’n ymddangos, heb fawr o syndod, bod cyni ariannol wedi newid sut mae llywodraeth leol yn meddwl am yr heriau mae’n eu hwynebu. Mae cydnabyddiaeth gynyddol y gall ymgymryd â gwaith priodol yn ganolog ryddhau adnoddau gwerthfawr ar gyfer y gwaith sydd ond yn gallu cael ei wneud yn lleol. Mae hyn yn creu cyfle cyson ar gyfer Data Cymru. Mae ein profiad hyd yma yn awgrymu bod yna fanteision gwirioneddol - o ran effeithlonrwydd a chostau - i’n gallu i ddefnyddio data cyffredin o Gymru a’r tu hwnt i gefnogi meddwl ar sail tystiolaeth ar lefelau rhanbarthol a lleol. Yn yr un modd, mae arbedion graddfa a gwerth ychwanegol ar gael drwy gyd-drefnu a gweithio mewn partneriaeth, wrth gasglu, storio a dadansoddi data. Gallwn ni chwarae rôl arweiniol yma.

Mae data a hysbysrwydd yn denu cryn sylw ar hyn o bryd i awdurdodau lleol a’u partneriaid. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 fel ei gilydd wedi cyflwyno disgwyliadau uwch bod gan wasanaethau cyhoeddus ddealltwriaeth gadarn o’u hardaloedd lleol, a bod hyn wedi’i seilio ar ddadansoddiad effeithiol o amrediad priodol o ddata. Mae’n amlwg bod cyfle i Data Cymru barhau i weithio gyda’n partneriaid ledled Cymru i ddatblygu dulliau effeithiol o gefnogi gwasanaethau cyhoeddus yn yr agweddau hyn o’u gwaith.

Mae cyni wedi effeithio ar ein sefydliad ni hefyd. Er i ni lwyddo i gynnal y lefelau staff mae eu hangen i barhau i gyflawni’n gwaith, mae swyddogaethau rheoli a ‘swyddfa gefn’ wedi cael eu cwtogi, a phrin yw’r gallu i ddatblygu’n sefydliadol.

Ond fel cwmni annibynnol, di-elw sydd wedi’i alinio â llywodraeth leol, rydym mewn sefyllfa dda i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd sydd o’n blaen. Fel sefydliad, mae gennym y rhyddid masnachol i bennu’n rhaglenni gwaith ein hunain a’r hyblygrwydd i symud yn gyflym pan fydd cyfleoedd yn dod i’r amlwg. Ein rôl i gefnogi llywodraeth leol yw’n blaenoriaeth o hyd. Mae rhannu lleoliad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLILC) wedi caniatáu i ni fod yn fwyfwy ymatebol i faterion sy’n dod i’r amlwg, yn fwy ymwybodol o’r ystyriaethau sy’n hanfodol iddynt hwy ac mae’r cysylltiadau gweithredol yn well. Mae ein perthynas hirsefydledig ag awdurdodau lleol ledled Cymru, eu hewyllys da, a’n henw da am gyflenwi yn cryfhau ein sefyllfa ymhellach.

Yn fwy diweddar, mae strategaeth ‘Ffyniant i Bawb’ Llywodraeth Cymru yn pennu’r holl gynlluniau ar gyfer integreiddio a chydweithredu a dulliau newydd o weithio, gyda ffocws arbennig ar bum maes. Byddwn am gefnogi llywodraeth leol a’u partneriaid wrth iddynt gyfrannu at gyflawni’r strategaeth. 

Beth mae hyn yn ei olygu ar gyfer Data Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf?

Mae’r angen am ddata cadarn, dibynadwy yna o hyd, wrth reswm, ac mae ein rôl ni mewn hwyluso mynediad i’r cyfryw ddata a chefnogi ei ddefnydd mor bwysig ag erioed. Mae’r capasiti am ddata ac ymchwil o fewn ein gwasanaethau cyhoeddus yn gynyddol gyfyngedig, felly mae ein gallu i ymgymryd â gweithgareddau a allai fod o fudd i’r gymuned gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn ein gosod mewn sefyllfa unigryw - sefyllfa sy’n cynnig manteision gwirioneddol i lywodraeth leol a’i phartneriaid. Byddwn yn parhau i fynd ar drywydd cyfleoedd i gynnig dulliau cost-effeithiol o ddarparu a defnyddio data ledled Cymru, lle gall y manteision gael eu huchafu a’r costau eu lleihau drwy gydweithredu.

Yn debyg iawn i’n cydweithwyr llywodraeth leol, cydnabyddwn werth gweithio gyda phartneriaid. Mae gennym gysylltiadau gwaith agos yn barod ag Is-adran ‘Gwybodaeth a Gwasanaethau Dadansoddol’ Llywodraeth Cymru, cydweithwyr yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac amrediad o gyrff data ac ymchwil academaidd a masnachol ledled y Deyrnas Unedig. Byddwn yn parhau i greu cysylltiadau â’r Campws Gwyddor Data newydd yng Nghasnewydd, ac ysgwyddo ymagwedd fwy rhagweithiol at wyddor data a’i photensial i gefnogi dyluniad gwasanaethau awdurdodau lleol y dyfodol. 

Bydd cydgysylltu parhaus â’n partneriaid hefyd yn gadael i ni rannu profiad, rhannu arfer da ac osgoi dyblygu diangen ac yn aml ddrud wrth ddatblygu a lledaenu data perthnasol. Mae dod â data ynghyd o amrywiaeth o ffynonellau sydd eisoes yn bodoli, a threfnu bod data ar gael mewn fformatau priodol a defnyddiol at ddefnydd gwasanaethau cyhoeddus yn parhau yn ffocws pwysig yn ein gwaith.

Mae un agwedd benodol ar hyn yn ymwneud â’r iaith Gymraeg. Rydym eisoes yn sicrhau bod ein holl ddata yn cael ei gasglu a’i ledaenu’n ddwyieithog. Hefyd cyfieithwn feta-data perthnasol lle nad yw eisoes yn cael ei ddarparu’n ddwyieithog o’r ffynhonnell. Drwy gyflawni’r gweithgareddau hyn yn ganolog, gallwn osgoi gwaith ychwanegol diangen i awdurdodau lleol a sefydliadau eraill ledled Cymru, wrth hybu defnydd y Gymraeg o fewn y gymuned ystadegol.

Credwn mai defnydd tystiolaeth gredadwy a ddylai fod yn sylfaen i benderfyniadau effeithiol. Daw credadwyedd, i ni, o’n statws fel cwmni annibynnol o fewn ‘teulu’ llywodraeth leol o gyrff yng Nghymru. Mae ein gallu i gyflwyno data, gwybodaeth a thystiolaeth sy’n rhydd rhag tueddiad gwleidyddol na thueddiad arall yn aros yn hanfodol bwysig i ni. Rydym eisoes wedi cael ein dynodi’n gynhyrchwyr Ystadegau Swyddogol sy’n amlygu ymhellach ansawdd ac annibyniaeth y data a gynigiwn.

Yn gynyddol, mae llawer o’n gwaith lledaenu yn digwydd drwy gyflwyniadau data dynamig a rhyngweithiol sy’n cael eu cyrchu drwy’r rhyngrwyd ar amrediad o ddyfeisiau. Byddwn yn parhau i uchafu’r cyfleoedd i wella argaeledd, hygyrchedd a defnydd data sy’n cael ei gyflwyno drwy ddatblygiadau technegol newydd.

Gan adeiladu ar Gynllun Data Agored Llywodraeth Cymru, rhan o’r gwaith hwn fydd bod yn egnïol wrth arwain y symud tuag at ddefnydd data ‘agored’, pan fydd cyrff yn sicrhau bod eu data yn ‘agored’ i bobl eraill ei ailddefnyddio. Credwn fod hyn yn hyrwyddo defnydd arloesol, dynamig ar ddata ac yn ehangu ei ddefnydd tu hwnt i gyfyngiadau traddodiadol gwasanaethau, ac y gall gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt ymgymryd â’r gweddnewid i wasanaethau digidol.

Er ein bod mewn sefyllfa dda i gefnogi llywodraeth leol wrth iddi ddefnyddio data a hysbysrwydd yn effeithiol, cydnabyddwn o hyd yr angen i feithrin gallu a gwybodaeth yn lleol. Yn ystod y cyfnod sy’n dod, byddwn yn adolygu’r hyfforddiant a ddarparwn ac yn datblygu rhaglen newydd, fwy perthnasol o gymorth i’r sawl sy’n gweithio gyda data o fewn gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a’r tu hwnt. O fewn y rhaglen hon, byddwn yn datblygu cefnogaeth bellach i’r sawl sy’n defnyddio data er mwyn sbarduno gwelliant o fewn gwasanaethau cyhoeddus, a’r rhai sy’n chwilio am arbedion effeithlonrwydd, er enghraifft, drwy ddefnyddio meincnodi a chymharu ystyrlon.

Yn sefydliadol, ein staff yw ein hased pennaf a gwerthfawrogwn eu cyfraniad. Byddwn yn parhau i ddatblygu a chynnal amrediad priodol o sgiliau a gwybodaeth ar draws lled ein rhaglen waith. Wrth wneud hynny, ni fyddwn yn encilio rhag gwneud newidiadau sy’n angenrheidiol o fewn y gweithlu er mwyn cyflawni’n gwaith. Rydym eisoes wedi cryfhau’n swyddogaeth ddatblygu dechnegol, ac mae’n fwriad gennym gynyddu’n capasiti ystadegol ffurfiol i ddarparu galluoedd dadansoddi ac ymchwil ychwanegol o fewn y busnes.

Byddwn yn uchafu’n gallu i gyflawni’n gwaith yn ddwyieithog drwy gryfhau ein capasiti Cymraeg pryd bynnag y bydd cyfleoedd i wneud hynny.

Rydym wedi cydnabod manteision rhannu lleoliad â CLILC, a cheisiwn gynnal y rhain yn y dyfodol, ar yr un pryd â pharhau i fanteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir drwy drefniadau gweithio o bell a gweithio hyblyg.

Ffocws ein gwaith

O fewn y cyd-destun hwn, credwn fod sawl gweithgaredd allweddol a fydd yn sylfaen i’n gwaith. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Parhau i gasglu, coladu, dadansoddi a lledaenu data – yn feintiol ac yn ansoddol – sy’n berthnasol i awdurdodau lleol a’u partneriaid wrth iddynt wynebu heriau tebygol fel caledi ariannol parhaus, a diwygio llywodraeth leol.
  • Defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu a chynnal systemau sy’n cefnogi defnydd effeithiol a chyhoeddi data agored ac annog awdurdodau lleol wrth iddynt newid tuag at wasanaethau digidol, rheoli gwybodaeth a thryloywder.
  • Nodi pa rai o’n hystadegau a ddylai gael eu cyhoeddi fel ystadegau swyddogol a datblygu’n prosesau a’n dogfennaeth yn unol â hynny.
  • Datblygu’r Fframwaith Perfformiad Cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol ymhellach.
  • Cefnogi anghenion tystiolaeth Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth y Rhanbarth.
  • Ymgymryd â gwaith dadansoddi a chynhyrchu hysbysrwydd i gefnogi llywodraeth leol.
  • Cefnogi’r ‘swyddogaeth graffu’ ledled Cymru drwy ddarparu data perthnasol a datblygu cymorth priodol ar gyfer aelodau a swyddogion craffu.
  • Hybu meincnodi gwasanaethau fel dull effeithiol o gefnogi gwelliant.
  • Hybu rôl llywodraeth leol fel darparwr ac fel defnyddiwr data/ystadegau, a chynrychioli eu buddiannau’n briodol.

Sefydliad sy’n addas at ei ddiben

Er mwyn bod yn effeithiol wrth gyflawni’r meysydd gwaith allweddol hyn, byddwn yn benderfynol ac yn canolbwyntio ar wneud gwahaniaeth. Byddwn yn weladwy - drwy gadw ymwybyddiaeth o’n rôl a’n swyddogaeth ymhlith llywodraeth leol a chyrff gwasanaethau cyhoeddus eraill, a‘u cynnwys mewn llywio’n gwaith ni. Bydd hyn, yn rhannol, yn deillio o fod yn ymatebol - gan adlewyrchu’r ‘materion drygionus’ sy’n effeithio ar lywodraeth leol a’i phartneriaid ledled Cymru.

Byddwn yn ystwyth – drwy fod yn ymwybodol a meddwl a gweithredu’n gyflym – ac yn ddynamig – drwy fod yn egnïol wrth fynd ati i gyflawni’n hawydd i weld data yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Byddwn yn gyfrifol – gyda’n data a’n defnydd ar ddata – gan sicrhau bod safonau’n cael eu cynnal.

Byddwn yn cadw ein hannibyniaeth a’n henw da am ddarparu cynnyrch o’r radd flaenaf. Mae’n dilyn y byddwn yn cynnal/datblygu amrediad eang o sgiliau/gwybodaeth/arbenigedd – gan ddefnyddio arbenigwyr allanol fel y bo’n briodol.

Byddwn yn ceisio ac yn annog dulliau cydweithredol o fodloni anghenion llywodraeth leol a’i phartneriaid am dystiolaeth. Byddwn yn flaengar o ran sut rydym yn darparu cymorth, ac o ran llunio’r dystiolaeth mae ei hangen i gefnogi darpariaeth gwasanaethau cyhoeddus y dyfodol.

Byddwn yn sicr am ein rôl ac yn hyderus o’n gallu i’w chyflawni. Byddwn yn uchelgeisiol ac ni fyddwn yn osgoi risgiau wrth geisio cyflawni’n nodau.

Sylfaen ariannol gadarn

O ganlyniad i newidiadau i’n sylfaen ariannu, bu’n rhaid newid cyfeiriad strategol y corff dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae ein ffocws wedi parhau i fod ar gefnogi’n partneriaid llywodraeth leol drwy ein gwaith uniongyrchol cyson gyda CLILC ac awdurdodau lleol ledled Cymru ac ar eu rhan. Fodd bynnag, mae gwaith masnachol (sy’n generadu incwm) yn nodwedd gynyddol o’n rhaglen waith ac wedi cynnig modd i ni gadw staff i gefnogi’n gweithgareddau ‘craidd’ traddodiadol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r incwm masnachol hwn wedi cyfrif am gyfran gynyddol o’n holl incwm. Yn 2013-14, roedd ein hincwm masnachol (£522 mil) yn cyfrif am ryw draean o’n holl incwm. Erbyn 2016-17 cynyddodd yr incwm masnachol (i £681 mil) gan gyfrif am fwy na hanner ein holl incwm. Er nad ein dewis ni o reidrwydd oedd y newid hwn ar y dechrau, rydym yn gwerthfawrogi’r ffordd mae gwaith masnachol wedi cynnig cyfleoedd, ac yn dal i gynnig cyfleoedd, i ni:

  • ddatblygu a chynnal sylfaen sgiliau eang;
  • estyn ein gorwelion tu hwnt i’r data sy’n gysylltiedig yn draddodiadol â’n ffocws ar lywodraeth leol;
  • defnyddio’r rhyddid i fod yn fwy rhagweithiol wrth ddilyn meysydd sydd o ddiddordeb i lywodraeth leol; a
  • bod yn fwyfwy ymatebol a hyblyg yn ein cefnogaeth i CLILC ac awdurdodau lleol.

Yn hanesyddol, bu’r incwm sy’n deillio o waith masnachol yn ddigon i dalu’n costau cysylltiedig, gyda’r manteision canfyddedig sy’n codi o’r cyfleoedd datblygiadol mae gwaith o’r fath yn eu cyflwyno. Credwn bellach, wrth i’r gyfran o waith masnachol barhau i gynyddu, fod cyfle gwirioneddol iddo gynnig manteision ariannol i’r busnes. Er enghraifft, gallai ein hincwm masnachol ddarparu’r arian mae mawr ei angen ar gyfer gwaith ymchwil a datblygu - sydd yn anaml yn fforddiadwy drwy ffrydiau arian hanesyddol ar sail grant. I’r perwyl hwn, byddwn yn sicrhau bod y taliadau masnachol a godwn nid yn unig yn talu’n costau’n llawn, ond hefyd yn cynnwys elfen a fydd yn cyfrannu at ddatblygiad parhaus y corff.

Hyd yn hyn, mae ein cwsmeriaid ‘masnachol’ wedi cynnwys ein partneriaid llywodraeth leol, cyrff sector cyhoeddus eraill, llywodraeth ganolog, cyrff trydydd sector a chyrff masnachol. Gan hynny bydd ein model codi taliadau yn cydnabod y cyfraniad parhaus mae llywodraeth leol yn ei wneud at y corff.

Edrych ymlaen...

Yn debyg i lawer o gyrff eraill yn y sector cyhoeddus, bu’n rhaid i ni ymaddasu i’r newid yn yr hinsawdd ariannol.

Rydym wedi manteisio i’r eithaf ar yr amgylchiadau sy’n ein hwynebu ac wedi bachu’r cyfle i fabwysiadu rôl ategol fwy canolog ar gyfer ein cydweithwyr llywodraeth leol - un sy’n adlewyrchu’r dyheadau ar gyfer yr Uned Ddata pan gafodd ei sefydlu’n gyntaf.

Er gwaethaf ofnau’r gorffennol, rydym ni bellach mewn sefyllfa gryf. Mae gennym rôl unigryw o hyd ym maes data ac ystadegau, a hynny wrth gefnogi a chynrychioli llywodraeth leol, a’n bwriad yw adeiladu ar hyn. Mae galw mawr am ein gwaith, ac mae’r adborth am ein gwaith yn awgrymu ei fod yn parhau i gael ei werthfawrogi.

Mae Data Cymru eisoes ar daith gyffrous, ac mae rhai o’r newidiadau a nodir yma yn mynd rhagddynt yn barod. Er enghraifft, bydd 2018 yn gweld lansio’n Mynegai ‘Mannau Ffyniannus’ newydd i Gymru a fydd yn cynnig dealltwriaeth newydd a gwell o’r amodau lleol ar gyfer llesiant.

Ond dim ond y dechrau yw hwn. Mae’r cynllun hwn yn darparu’r sbardun am gorff newydd ac un sydd wedi ei ailfywiogi, sydd mewn sefyllfa dda ac yn barod i chwraae rôl allweddol yn nhirlun byth-newidiol gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

Cynllun Busnes 2020-21

Cyflwyniad

Ym Mawrth 2018 cyhoeddom ni’n cynllun strategol ‘Gosod data a hysbysrwydd wrth galon darparu gwasanaethau cyhoeddus’. Nododd hyn gyfeiriad a ffocws ein gwaith am y blynyddoedd sy’n dod. Datblygom ni gynllun busnes ar gyfer 2018-19 a 2019-20 sy’n pennu sut byddem yn dechrau taith ei gyflenwi. Mae’r cynllun busnes hwn ar gyfer 2020-21 yn pennu sut y bwriadwn barhau’r daith o gyflenwi uchelgeisiau ein cynllun. Mae’r cynllun hwn yn canolbwyntio ar ein rhaglen waith – yr hyn byddwn yn ei ddarparu – yn ogystal ag ar ddatblygiad sefydliadol – sut y gwnawn ni hynny. Rydym yn cydnabod y gall fod angen i ni ail-flaenoriaethu’n cynlluniau wrth i ni ddeall goblygiadau pandemig COVID-19 yn well.  

Ein staff

Ein staff yw’r allwedd i gyflenwi’r uchelgeisiau sydd yn ein Cynllun Strategol o hyd. 

Wedi cadw’n statws Buddsoddwyr mewn Pobl yn 2018, rydym wedi gosod targed i’n hunain o weithio tuag at arferion sefydledig ‘uwch’ fel y’i pennir ym model Buddsoddwyr mewn Pobl. Yn ystod y flwyddyn sy’n dod byddwn yn parhau i weithio ar ymdrin â chanfyddiadau ein hasesiad a’r meysydd i’w datblygu.

Ein bwriad yw adolygu defnydd cychwynnol ein harchwiliad sgiliau diweddar a mireinio hwn yn ôl yr angen. Ceisiwn lenwi bylchau sgiliau sydd wedi eu nodi (neu ddarparu cydnerthedd pellach) lle bo angen – yn benodol mewn perthynas â datblygiad gwe a data daearyddol-gofodol. Byddwn yn parhau i gryfhau ein capasiti ystadegol.

Mae’r brydles ar ein hadeilad yn dod i ben yn 2021. Mae ein Bwrdd wedi cadarnhau mai ein dewis yw parhau i rannu llety â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn CLlLC i bennu trefniadau newydd terfynol o ran llety.

Yn gysylltiedig â’n gwaith ar lety, byddwn yn ceisio dysgu gwersi o COVID-19 a’r disgwyliadau o ran ‘norm newydd’. Byddwn yn ceisio barn staff am lety a threfniadau gweithio yn y dyfodol, gan ofyn iddynt fyfyrio ar eu profiad o’r cyfnod clo. Byddwn yn datblygu cynlluniau mewn ymateb i’w hadborth.

Ansawdd ac uniondeb

Fel sefydliad â phwyslais cryf ar ddata a gwybodaeth, mae ansawdd a chywirdeb ein cynhyrchion yn flaenoriaeth allweddol.

Bwriadwn sicrhau bod ein cyhoeddiadau ystadegol yn cyd-fynd â chod ymarfer Awdurdod Ystadegau’r DU. Rydym wedi adolygu’n cydymffurfiaeth â’r Cod ac yn llunio cynllun gweithredu i ddiwallu’r arfer gorau. Disgwyliwn fod wedi cwblhau gweithredu’r mwyafrif o’r camau a ddeilliodd o’n hadolygiad yn ystod 2020-21. 

Gan ein bod wedi datblygu sgiliau mewn technolegau newydd (Power BI, R, Python ac ati), mae angen i ni sicrhau bod ein safonau lledaenu ystadegol yn adlewyrchu galluoedd yr offerynnau newydd hyn. I’r perwyl hwn, rydym yn datblygu cyfres o ganllawiau mewnol. 

Effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd

Rydym wedi ymrwymo i barhau i geisio gwella effeithlonrwydd, effeithiolrwydd a gwerth am arian. Mae gennym raglen waith o hyd sy’n anelu at wella ansawdd prosesau a chyflenwi effeithlonrwydd o ran adnoddau.

Byddwn yn parhau i integreiddio meddalwedd ehangach Office 365 yn ein busnes beunyddiol, gan gynnwys cwblhau’r symud o Skype ar gyfer busnes i Teams ar gyfer pob gwasanaeth teleffoni. Byddwn yn ymchwilio i fabwysiadu meddalwedd CRM ffurfiol.

Byddwn yn cwblhau’r symud i gofnod adnoddau dynol cwbl ddigidol am bob aelod staff a manteisio ar ein meddalwedd AD i ganiatáu integreiddio data AD yn ein hadroddiadau mewnol lle bo’n briodol.

Mae ein tîm datblygu gwe wedi cyflwyno Azure DevOps Microsoft at ddiben rheoli ffynonellau a rheoli codio. Mae nodweddion arwyddocaol o fewn DevOps i ni fanteisio arnynt a’n bwriad yw symud y gwaith hwn yn ei flaen yn 2020-21. Rydym wedi comisiynu gweinydd Integreiddio a Chyflenwi Parhaus i ystwytho’n prosesau datblygu a defnyddio.

Byddwn yn symud ein gweinyddion gwe a chronfa ddata presennol i dechnolegau Microsoft mwy cyfredol. Bydd hyn yn dod â gwelliannau mewn perfformiad ac ymarferoldeb ac yn cynnig llawer mwy o gydnerthedd. 

Rydym wedi datblygu ein galluoedd gwyddor data er mwyn i atebion o’r fath gael eu hintegreiddio bellach yn ein gweithgareddau busnes. Yn y dyfodol bwriadwn ddatblygu cydnerthedd ac ehangu ein pecyn offer technegol i fanteisio ar integreiddio cynhyrchion o fewn cyfres nwyddau Microsoft.

Partneriaeth a chydweithrediad

Mae gweithio drwy bartneriaeth a chydweithrediad wedi bod yn rhan anhepgor o’n hymagwedd at gefnogi llywodraeth leol a’i phartneriaid. Mae ein gwaith cynnar yn ystod pandemig COVID-19 wedi atgyfnerthu pwysigrwydd hyn. Yn 2020-21 byddwn yn adeiladu ar y cynnydd sydd wedi’i wneud, gan ganolbwyntio’n arbennig ar sicrhau bod ein rôl a’n cefnogaeth yn berthnasol, yn amserol ac yn ychwanegu gwerth.

Ein rhaglen waith ar gyfer 2020-21

Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd ein rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ddeinamig ac yn ymateb i anghenion wrth iddynt godi, nid lleiaf effaith COVID-19. Bydd yn cynnwys elfen o weithgarwch parhaus hefyd. Ymhlith meysydd gweithgarwch pennaf y flwyddyn nesaf fydd:

  • COVID-19 - Bydd ein blaenoriaethau yn cynnwys parhau i gasglu a dadansoddi data i gefnogi CLlLC, awdurdodau lleol a phartneriaid wrth iddynt fonitro effaith y pandemig a’r ymateb iddo. Ymhen amser byddant yn dymuno monitro’r ymadfer ac effaith ymyriadau. Byddwn yn datblygu dangosfwrdd cychwynnol o ddangosyddion a mesurau ac yn gweithio gyda’n partneriaid i ddeall pa wybodaeth arall mae arnynt ei hangen a sut y gellid dod o hyd i hon.
  • Cymorth gwella awdurdodau lleol - Mae gohiriad dros dro casglu’r data perfformiad yn cynnig y cyfle i ni ystyried pa ddata dylai awdurdodau lleol fod yn edrych arno wrth iddynt ddechrau ymadfer o argyfwng COVID-19. Defnyddiwn y cyfle hwn i hwyluso trafodaeth am y mesurau yr hoffai awdurdodau lleol gael eu dal i gyfrif amdanynt o bosib yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu proffiliau awdurdodau lleol a fydd yn cefnogi hunan-asesu lleol ac yn cysylltu â data ynghylch ymadfer a’r ‘norm newydd’.
  • Data Agored - Gan adeiladu ar y cynnydd a wnaed yn 2019-20, mae nifer o ffrydiau gwaith gennym yn y maes hwn o hyd, wedi eu hategu gan ein strategaeth data agored. Ar lefel strategol byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol Cymru, Llywodraeth Cymru ac ODI-Caerdydd i helpu i greu ecosystem data agored sector cyhoeddus. Byddwn yn cyhoeddi adran Data agored ar ein gwefan, i alluogi defnyddwyr i gyrchu gwybodaeth a chefnogaeth am ddata agored. Rydym yn datblygu ‘opendata.wales’ - siop un stop ar gyfer data agored awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd yr ‘hwb’ neu’r ‘porth’ yn caniatáu i awdurdodau lleol a sefydliadau sector cyhoeddus eraill gyhoeddi eu data mewn fformat agored er mwyn i ddefnyddwyr gael hyd iddo’n rhwydd o un ffynhonnell. Byddwn yn parhau ein cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol i’n helpu i ddeall pa gefnogaeth y gall fod ei hangen arnynt i’w galluogi i gyhoeddi a defnyddio mwy o ddata agored.
  • Adeiladu capasiti - Cydnabu ein Cynllun Strategol yr angen i barhau i adeiladu capasiti a gwybodaeth leol. Cafodd hyn ei atgyfnerthu yn adroddiad dilynol Swyddfa Archwilio Cymru. Mae rhannu arfer da â chydweithwyr a phartneriaid yn elfen allweddol ein strategaeth gorfforaethol. Hyd yma, rydym wedi cyhoeddi arweiniad gwerthuso a chyn bo hir byddwn yn cyhoeddi arweiniad cryno.
  • DataBasicCymru - Rydym wedi ymrwymo i annog a chefnogi awdurdodau i barhau i roi tystiolaeth wrth galon gwneud penderfyniadau. Mae DataBasic, a ddatblygwyd gan ymchwilwyr yn Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT), yn rhaglen ddysgu i hwyluso cyflwyniadau difyr, creadigol i ddeall a defnyddio data. Yn ystod 2020-21 byddwn yn gweithio gydag MIT i gyflwyno DataBasicCymru, sydd wedi’i anelu’n benodol at gynulleidfa Gymreig. Yn ogystal â’r wefan ‘hunan-wasanaeth’ hwn, byddwn yn datblygu gweithgareddau i gefnogi cyflwyniad yr hyfforddiant rydym yn bwriadu ei gyflwyno.
  • Asesiadau llesiant a phoblogaeth - Mae’n ofynnol i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol gynhyrchu asesiadau/ail-asesiadau erbyn Ebrill 2022 i ategu eu cynlluniau strategol. Disgwyliwn fod yn rhan o ddatblygiad y canllawiau ar y broses asesu o ran data, a chynnig ystod o offerynnau a chymorth i helpu partneriaid yn y gwaith hwn.
  • Data ac offerynnau a systemau data – Byddwn yn cefnogi cyhoeddiad adroddiadau data uwch eu proffil gyda delweddiadau, blogiau a gwybodaeth ychwanegol i helpu i hysbysu defnyddwyr, gan adlewyrchu anghenion penodol ein cynulleidfa o fewn llywodraeth leol. Byddwn yn cynyddu’r atebion technegol a lledaenu sydd ar gael i gleientiaid am byrth ar-lein a gwefannau.