Rydym wedi cyhoeddi ein hadroddiad monitro cyntaf o’n cydymffurfiaeth â’n Rheoliadau Safonau’r Gymraeg.
O’r 25 Ionawr 2017, mae’r Uned Ddata wedi ymrwymo i Reoliadau Safonau’r Gymraeg a osodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Mae’r Safonau yma yn gosod disgwyliadau pendant arnom ni i gynnig gwasanaethau Cymraeg i’n cwsmeriaid ac i hybu mwy o ddefnydd o’r Gymraeg o fewn gwasanaethau.
Mae ein hadroddiad monitro yn darparu gwybodaeth ar ein cydymffurfiaeth, unrhyw gamau gweithredu rydym wedi cynnal, yn ogystal â darparu gwybodaeth ar unrhyw gwynion yn ymwneud â’n gydymffurfiaeth â’r Rheoliadau Safonau’r Gymraeg a dderbyniwyd. Rydyn yn falch i ddweud nad ydym wedi derbyn unrhyw gwynion yn 2016-17.
Gallwch ddod o hyd i’r adroddiad yma.
Postio gan
y Golygydd / the Editor
29/09/2017