• This website is available in English

Dewis Cymru

Am Dewis Cymru

Dywed pobl wrthym nad yw’n hawdd i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir, ar yr adeg gywir, ac wedi ei chyflwyno yn y ffordd iawn.

Nod Dewis Cymru yw helpu pobl gyda’u llesiant drwy rannu gwybodaeth am ystod eang o sefydliadau a gwasanaethau lleol a chenedlaethol. Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano, o warchodwr plant i gartref gofal preswyl, mae’r ateb gan Dewis! Yna gallwch chi wneud eich dewis eich hun am ba wasanaethau sy’n bodloni’ch anghenion chi orau.

Mae Dewis Cymru wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl i ddod o hyd i wybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau sy’n gallu eu helpu i gymryd rheolaeth dros eu llesiant eu hun. Mae’n ddefnyddiol hefyd i bobl fel Meddygon Teulu, Llyfrgellwyr, Gweithwyr Cymdeithasol a llawer o sefydliadau lleol sy’n cynnig gwybodaeth i’r cyhoedd fel rhan o’u gwaith.

Ewch