• This website is available in English

Porth Data’r Trydydd Sector

Ynghylch CGGC – Porth Data’r Trydydd Sector

Mae Porth Data’r Trydydd Sector, a ddatblygwyd i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC), yn cynnig amrediad o ddata am y Trydydd Sector yng Nghymru. Mae’r Porth yn helpu i ddangos effaith gwaith y sector gwirfoddol yng Nghymru.

Mae’r Porth yn cynnwys data oddi wrth CGGC, y Comisiwn Elusennau, NVCO Almanac, Llywodraeth Cymru, a mwy o ffynonellau. Mae’r data yn cynnwys niferoedd sefydliadau, incwm y sector, oriau gwirfoddoli, meysydd gwaith, lleoliad grwpiau a rhagor. Mae’r Porth, sydd wedi ei ddatblygu mewn PowerBI, yn rhyngweithiol ac yn caniatáu i ddefnyddwyr hidlo eu canlyniadau yn ôl lleoliad, rhywedd, oedran a meysydd eraill lle bo’n briodol. Mae gwaith datblygu a diweddaru’r Porth yn parhau mewn cydweithrediad â CGGC.

Ewch