• This website is available in English

Telerau ac amodau cadw lle, polisi canslo a hysbysiad preifatrwydd

Cadw lle

Bydd cyfarwyddiadau ymuno yn cael eu hanfon cyn y cwrs hyfforddiant, gan gadarnhau’r dyddiad a’r amserau dechrau/gorffen.

Cysylltwch â Helen Williams (ymholiadau@data.cymru) neu ffoniwch 029 2090 9500 os nad ydych wedi derbyn y cyfarwyddiadau ymuno o leiaf 1 wythnos cyn y cwrs hyfforddiant.

Ffioedd

Mae ffioedd cyfranogwyr yn cyfrannu at gostau cyflwyno’r cwrs, gan gynnwys y gwaith gweinyddu a’r deunyddiau a ddarperir gan Data Cymru.

Polisi canslo

Bydd canslo neu ohirio’ch lle yn cael ei dderbyn yn ysgrifenedig yn unig. Os na allwch fod yn bresennol, mae croeso i rywun arall gymryd eich lle ond mae’n rhaid i chi roi gwybod i Helen Williams (ymholiadau@data.cymru) cyn gynted â phosibl.

Os bydd Data Cymru yn canslo’r cwrs hyfforddiant, bydd ad-daliad llawn yn cael ei wneud.

Os byddwch chi’n canslo, bydd y taliadau canlynol yn cael eu codi:

  • 15 diwrnod gwaith neu fwy cyn y cwrs – dim ffi
  • 5-10 diwrnod gwaith cyn y cwrs – 50% y costau
  • 5 diwrnod gwaith neu lai (neu fethu â mynychu) – 100% o’r costau

Cadwn yr hawl i ganslo neu ad-drefnu’r cwrs hyfforddiant am resymau sydd tu hwnt i’n rheolaeth. Os gwnawn hynny, byddwn bob amser yn ceisio cynnig trefniant amgen i chi. Os dewiswch beidio â derbyn hyn, cynigiwn ad-daliad llawn i chi.

Drwy gadw lle ar gwrs hyfforddiant Data Cymru rydych yn cytuno i’r telerau ac amodau uchod.

Defnyddio’ch gwybodaeth bersonol

Byddwn ni (Data Cymru) yn defnyddio unrhyw wybodaeth a rowch i ni i gysylltu â chi ynglŷn â’r cwrs a byddwn yn storio’r wybodaeth hon nes bod y cwrs wedi digwydd. Rhannwn eich gwybodaeth â chydweithwyr perthnasol i Data Cymru. Rydym yn prosesu data personol yn unol â Deddf Diogelu Data 2018. Mae ein hysbysiad preifatrwydd ni ar gael ar ein gwefan. A defnyddiwn Tocyn Cymru fel ein system archebu lle. Gweler hysbysiad preifatrwydd Tocyn Cymru i ddysgu sut maent hwy’n defnyddio’ch gwybodaeth. 

Gallwch nawr gofrestru ar ein rhestr bostio i fod yn un o'r cyntaf i glywed am weminarau, sesiynau hyfforddi neu ddigwyddiadau eraill yn y dyfodol Cofrestru

Rydym ni, Data Cymru, yn prosesu data yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 ac ni fyddwn yn defnyddio nac yn rhannu’ch manylion at unrhyw ddiben arall. Os hoffech gael eich tynnu oddi ar y rhestr bostio, cysylltwch ag ymholiadau@data.cymru.