• This website is available in English

Defnyddio ein gwefan

Mae ein gwefan yn cael ei chynnal a'i chadw er mwyn ichi ei defnyddio. Wrth i chi gysylltu â'r safle hwn a'i ddefnyddio rydych yn derbyn yr Amodau a Thelerau hyn fydd yn dod i rym y tro cyntaf y byddwch yn ei ddefnyddio.

Eiddo deallusol

Marciau perchnogol Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru yw'r enwau, y delweddau a'r logos sy'n adnabod Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru. Ni chaniateir copïo ein logos neu logos unrhyw drydydd parti arall yr eir atynt trwy'r wefan hon heb ganiatâd gan y perchennog hawlfraint perthnasol ymlaen llaw.

Os ydych am ddefnyddio ein logo cysylltwch â'r:

Rheolwraig Gwasanaethau Corfforaethol
Uned Ddata Llywodraeth Leol ~ Cymru
Local Government House
Drake Walk
Caerdydd
CF10 4LG
United Kingdom

Phone: 029 2090 9500
Fax: 029 2090 9510
Mail: webmaster@dataunitwales.gov.uk

Dywedwch wrthym pam a sut yr ydych am ddefnyddio ein logo(s). Nodwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, rhif ffacs ac e-bost.

Hawlfraint y Goron

Caiff hawlfraint y rhan fwyaf o'r deunydd sy'n ymddangos ar y safle hwn ei diogelu gan hawlfraint y Goron oni nodir fel arall. Gellir atgynhyrchu'r deunydd a ddiogelir gan hawlfraint y Goron (heblaw'r Arfbais Frenhinol a logos yr adrannau neu'r asiantaethau) am ddim mewn unrhyw fformat neu gyfrwng ar yr amod bod y deunydd yn cael ei atgynhyrchu'n gywir ac nid mewn cyd-destun camarweiniol. Pan gaiff unrhyw un o'r eitemau ar y wefan sydd o dan hawlfraint y Goron ei hailgyhoeddi neu ei chopïo i eraill, mae'n rhaid enwi ffynhonnell y deunydd a chydnabod y statws hawlfraint.

Nid yw'r caniatâd i atgynhyrchu deunydd a ddiogelir gan y Goron yn cynnwys unrhyw ddeunydd ar y safle hwn a adnabyddir yn hawlfraint trydydd parti. Mae'n rhaid cael caniatâd y deiliaid hawlfraint dan sylw er mwyn atgynhyrchu deunydd o'r fath.

Rydym yn annog ein defnyddwyr i greu hypergysylltiadau â'r safle hwn. Am ragor o wybodaeth ar bolisi hawlfraint a threfniadau trwyddedu'r Goron, ewch i weld yr arweiniad ar wefan yr HMSO: www.hmso.gov.uk/guides.htm.

Hypergysylltu â ni yn Uned Ddata Llywodraeth Leol - Cymru

Nid oes yn rhaid i chi ofyn am ganiatâd i gysylltu'n uniongyrchol â'r tudalennau ar y safle hwn. Ni ydym yn gwrthwynebu i chi gysylltu'n uniongyrchol â'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys ar ein safle. Er hynny, nid ydym yn caniatáu llwytho ein tudalennau i fframiau ar eich safle. Dylai ein tudalennau gael eu llwytho i ffenestr gyflawn y defnyddiwr.

Hypergysylltu â gwefannau trydydd parti

Nid ydym yn gyfrifol am gynnwys neu ddibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig ac nid yw o reidrwydd yn cymeradwyo'r safbwyntiau a leisir ar y gwefannau hyn. Nid yw cynnwys gwefannau ar restr yn gyfystyr â chymeradwyaeth o unrhyw fath. Ni allwn roi sicrwydd y bydd y cysylltiadau hyn yn gweithio drwy'r amser ac nid oes gennym reolaeth dros ddilysrwydd tudalennau cysylltiedig.

Diogelwch rhag firysau

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i archwilio a phrofi pob deunydd ym mhob cyfnod o'r broses gynhyrchu. Mae'n syniad doeth ichi redeg rhaglen gwrthfirws ar bob deunydd a ddadlwythir o'r Rhyngrwyd. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled, ymyrraeth neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a all ddigwydd tra'n defnyddio deunydd ar y wefan hon.

Ymwadiad

Mae gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau ein gwefan ynghyd â deunydd sy'n ymwneud â gwybodaeth gan y Llywodraeth (neu wybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti) yn cael eu darparu 'fel y maent' heb unrhyw gynrychiolaeth na chymeradwyaeth a heb warant o unrhyw fath, boed yn ddiamwys neu'n oblygedig, yn cynnwys ond heb eu cyfyngu i warantau goblygedig o ansawdd boddhaol, addasrwydd ar gyfer pwrpas penodol, heb dor-cyfraith, cyfaddasrwydd, diogelwch a chywirdeb.

Nid ydym yn rhoi sicrwydd y bydd y swyddogaethau yn y deunydd ar y safle hwn yn ddi-dor nac yn ddi-wall, y bydd diffygion yn cael eu cywiro, neu y bydd y safle hwn neu'r gwasanaethydd sy'n sicrhau bod y safle ar gael yn rhydd rhag firysau neu'n cynrychioli ymarferoldeb, cywirdeb, dibynadwyedd llawn y deunyddiau. Ni fyddwn dan unrhyw amgylchiadau yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiadau, colled neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a ddaw yn sgil defnyddio neu fethu â defnyddio data, neu elw, sy'n deillio neu sy'n gysylltiedig â'r defnydd o’n gwefan.

Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn cael eu rheoli a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw anghydfod sy'n codi dan yr Amodau a Thelerau hyn yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.